Yr 'U' yn darfod amdani

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Mer 28 Gor 2004 1:07 pm

Gwen a ddywedodd:Ti'n iawn - yn anffodus. Yr 'i' Saesneg ydi o. Fi a fy 'e' :rolio: . Dyna'r sain on i'n feddwl.

Enghraifft arall o sut ydan ni'n cael ei cyflyrru'n ddiwylliannol. Mae hyd yn oed y rhai sy'n falch o fod yn Gymry, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol, ar lefel anymwybodol wedi penderfynu bod y sain naturiol, draddodiadol, yn "grinjllyd" ac yn ffafrio'r un Seisnig. :drwg:

Dewch â'r "U" Gymreig yn ôl!

(Pawb, dim jyst fi, neu mi fydda i'n swnio fatha Cynan)


Ydi, mae o'n isymwybodol, ond nid y rheswm ydi ei fod o'n 'grinjllyd', dwi'm yn dallt o lle ti'n cal y syniad yma eniwe. Ydi 'll' yn grinjllyd felly? Ma jest yn digwyd yn isymwybodol, pan ma ne ddwy sain eithaf tebyg rwyt ti'n gyfarwydd a hwy yn cyfuno i mewn i un. Ma'n gallu digwydd mewn unrhwy iaith, o dan ddylanwad iaith arall neu beidio.
Ma'r sain 'u' hefyd yn gymharol anodd i'w ddweud, a gyda'r tafod yn nhop canol y ceg ma'n eitha pell o ble ma hi angen bod ar gyfer seiniau eraill sy'n golygu ei bod hi'n fwy cyfleus i ddweud y sain depycach i 'i'. Bosib mai dyma pam gollodd y deheuwyr yr 'u' yn y lle cynta, wniddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Madfallen » Mer 28 Gor 2004 2:01 pm

Y peth diddorol am hyn yw gweld fod complecs y Cymro yn fwy yn Gwen nag yn Aled.

I Aled, mae'r hen "u" bedol traddodiadol yn "ddigri":

Aled a ddywedodd:Byddai Cymry hyn, heb gymaint o arfer o'r Saesneg yn defnyddio'r sain 'u' wrth siarad Saesneg. Da chi gyd wedi clywed rywyn yn gneud hyn, mae o'n un o'r pethe mwya digri am glywed hen ddyn Cymraeg yn trio siarad saseneg - 'dus us mai ffulm ies...


Tra i Gwen, mae'n "grinjllyd".

Gall Aled chwerthin am ben hyn, ond rywsut, mae e'n codi cywilydd ar Gwen. Ydy hi'n unieithu ei hun yn fwy ag e neu rywbeth? Beth bynnag, mae'n cywilyddio am seiniau Cymreig mewn byd Seisnig. Mae hyn yn beth negyddol iawn. Ond sylwer nad positif yw ymateb Aled ychwaith. Chwerthin yn ddiliornus gyda'r Saeson a wna e, ac yn ei wrthod fel nod arno e ei hunan. Dyma ddau sy'n amlwg yn meddwl am eu Cymreictod mewn modd negatif tu hwnt.

Deheuwraig ydw i. Newidiasom ni'r sain am un Cymreig arall. Nid oes sglodyn ar ein hysgwyddau ni. :D

Gogs - :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Madfallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sad 12 Gor 2003 12:56 pm

Postiogan Mr Gasyth » Mer 28 Gor 2004 3:10 pm

Ella fod digri yn air anghywir. 'Nodweddiadol' oeddwn i'n feddwl.
Ond mae o'n ddigri gwrando ar dad yn siarad Saesneg felne :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Mer 28 Gor 2004 3:26 pm

Beth bynnag eich barn am yr "u" ddwbwl ma rhaid i chi gyfaddef fod clywed gogleddwr(aig) yn siarad Saesneg yn grinjllyd ag yn ffynnu ar yr un pryd!!!! Sori Ffynni!!!

Pob swnyn yn dod o ddyfnderoedd y gwddwg rhywle!!!!!! Fe nele'r gogs ventriloquists gwych!!!!!
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Gwen » Mer 28 Gor 2004 3:41 pm

Sglodion o faint sylweddol, does Aled? :lol:

(Dechra difaru agor y drafodaeth rwan... Complecs y Gymraes ynof eto, mae'n debyg...)
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 28 Gor 2004 3:54 pm

Gwen a ddywedodd:Sglodion o faint sylweddol, does Aled? :lol:

(Dechra difaru agor y drafodaeth rwan... Complecs y Gymraes ynof eto, mae'n debyg...)


Eh? Dwi'm yn dallt. Sori
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Gwen » Mer 28 Gor 2004 4:08 pm

Sori - dim dyna'n union ddudodd Madfallen, ond sylwa ar y pwyslais ar y 'ni' wrth sôn am y Deheuwyr :rolio:
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Ramirez » Mer 28 Gor 2004 5:16 pm

dewch am dro i ben llyn bobol.

"helo"

"mmmmmiii, uuuuuarnff, deuuuugrindogu. de? iown?"
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan huwwaters » Iau 29 Gor 2004 11:30 am

Dyma pam mae "u" yn cael ei glywed llai:

yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi


"eu" dyle fod yn fanna!

A pam ti'n deud dyle'r gogledd orllewinwyr wneth dipyn o gyfraniad. Ma pobl yn cwyno fod yr iaith Gymraeg yn mynd mewn cymunedoedd bychain, ond ma pobl fel fi'n llwyddo i gadw Cymraeg pur a lot o bobl erill tra'n byw gyda mwyafrif Saesneg. Dyna beth yw cyfraniad.

Dwi'n meddwl mai yn yr hen ddyddiau, oedd "y" yn cael ei ynganu fel "u" mwy, fel cefais fy nghywiro.

Nid "byth" ond "buth".
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gwen » Iau 29 Gor 2004 12:17 pm

huwwaters a ddywedodd:Dyma pam mae "u" yn cael ei glywed llai:

yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi


"eu" dyle fod yn fanna!


"hi" = y llythyren 'u', felly mae "ei" yn iawn. :P

huwwaters a ddywedodd:A pam ti'n deud dyle'r gogledd orllewinwyr [b][sic][/b[wneth dipyn o gyfraniad. Ma pobl yn cwyno fod yr iaith Gymraeg yn mynd mewn cymunedoedd bychain, ond ma pobl fel fi'n llwyddo i gadw Cymraeg pur a lot o bobl erill tra'n byw gyda mwyafrif Saesneg. Dyna beth yw cyfraniad.


Anghofio ychwanegu :winc: nes i ( :rolio: ) - neu ddewis peidio ella gan ddisgwyl i Sbecs Peledr X ddod ar draws yr edefyn. Dwi'm o ddifri yn deud nad ydi pobl y gogledd-ddwyrain, na chdi yn benodol, yn gwneud cyfraniad.

On i'm yn disgwyl i hon droi'n ddadl rhwng 4 ban Cymru. Sgen y de-ddwyreinwyr ddim byd i ddeud. Gwahanglwyf...?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron