Yr 'U' yn darfod amdani

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr 'U' yn darfod amdani

Postiogan Gwen » Mer 28 Gor 2004 9:46 am

Dwi'm yn deud mod i'n iawn, a sgen i'm tystiolaeth wyddonol na dim byd felly, ond dwi'n meddwl fod y sain 'u' yn darfod amdani. :ofn:

Meddwl hyn ar ôl bod yn gwrando ar archifau sain yn ddiweddar, ac os gwrandwch chi ar bobl (Gogleddwyr) ryw chwe deg i saith deg mlynedd yn ôl, mi glywch chi fod yr 'u' yn lot cryfach - yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi. Mae mwy o ryw gymysgedd yn y sain erbyn hyn - nid 'i' fel sy gan y Deheuwyr, ond rhyw hint o 'e'. Nid 'e' fel y cyfyw chwaith. Ond dywedwch y sain yn uchel a sylwch ar y gwahaniaeth rhwng y ffordd rydach chi'n deud y llythyren ynghanol gair â'r ffordd egsajyreted gewch chi wrth rowlio'r tafod a gwneud swn 'u' go iawn.

Mae hyn yn gwneud synnwyr wrth feddwl sut y bu iddi farw allan yn y de. Ond peth diddorol arall i mi ydi sylwi dro ar ôl tro ei bod hi'n dal yn gryfach gan bobl y gogledd-ddwyrain. Y gogledd-ddwyrain fydd cadarnle ola y sain 'u', credwch chi fi. [ Hen bryd iddyn nhw wneud rhyw gyfraniad...].

:ofn: :ofn: :ofn:

[Ond does dim rhaid i chi gytuno hefo fi]
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Drwyslwr » Mer 28 Gor 2004 9:57 am

Wyt ti'n siwr nad wyt ti'n dweud hyn fel gogleddwraig sydd yn byw yn Aberystwyth a dy acen di dy hun yn gwanhau?

Oes tystiolaeth ehangach i brofi'r fath ddamcaniaeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Drwyslwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 23 Mai 2003 11:38 am

Postiogan Gwen » Mer 28 Gor 2004 10:01 am

Dwi'm yn meddwl, na. :? (Er, wedi dweud hynny, mae'n ffaith amdana i felly pwy a wyr). Meddwl wrth wrando ar dapiau sain wnes i, a chymharu hynny wedyn efo be dwi'n glywed pobl yn ei ddeud rwan. Pobl eraill, fy nheulu - Gogleddwyr. Mae'n anodd clywed seiniau rwyt ti'n eu gwneud dy hun yn iawn beth bynnag.

Dwn im ai fi ydi o, ond ron i'n clywed rwbath yn reit grinjllyd am yr 'u' fel roedd hi ar y tapiau 'na. Fel taen nhw'n gwneud ati. Cofiwch chi, ella eu bod nhw... Ydi hynny'n bosibilrwydd tybed?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Drwyslwr » Mer 28 Gor 2004 10:05 am

Rwyt ti'n dweud fod acen y Gogledd-Ddwyrain yn peri i ti grinjo felly?
Rhithffurf defnyddiwr
Drwyslwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 23 Mai 2003 11:38 am

Postiogan Gwen » Mer 28 Gor 2004 10:09 am

:wps: Nachdw! Dim dyna on i'n feddwl!

Dwn im. Glywodd rhywun 'Yr Awdl' ar Radio Cymru neithiwr a sylwi ar y ffordd roedd Cynan, er enghraifft, yn dweud 'u'? Crinjllyd, medda fi eto. Wel, ia, be sach chi'n ddisgwyl gan Cynan, ond yn ôl y tapiau dwi di bod yn gwrando arnyn nhw, roedd pobl gyffredin yn siarad felly hefyd. Doedd pawb ddim yn gwneud ati, does bosib? :?

Jyst dweud on i fod yr 'u' yn gadarnach yn y gogledd-ddwyrain erbyn hyn. Yn fy marn i, hynny ydi.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Machlud Jones » Mer 28 Gor 2004 10:11 am

Un peth sy'n sicr mae gwahaniaeth pendant yn dal i fodoli rhwng i ac u ymysg gogleddwyr yn wahannol i ddeheuwyr a'u 'u bedol'.

Mae diffyg y deheuwyr yn niwsans ac yn gallu creu dryswch. Wrth glywed y stori am gael Maer i Geredigion, roeddwn i wastad yn gorfod meddwl am eiliad 'Pwy di'r Mair ma o Geredigion sydd mor bwysig?'
Machlud Jones
 

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 28 Gor 2004 10:15 am

Mae'r 'u bedol' yn creu dipyn o ddryswch imi. Cofiwn i mewn rhyw ddarlith Cymraeg y darlithydd(es?) yn dweud bod 'na dri swn 'i' - sef i, y a u. Doeddwn i methu a dallt, wir.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Meiji Tomimoto » Mer 28 Gor 2004 10:21 am

Mae 'na stori am un ai y diweddar Emily Davies neu Cefyn Roberts (Dwi'm yn cofio pa un) yn hyfforddi actorion o'r de i wneud gogspeak drwy ddefnyddio y frawddeg "tisho pys?"
ynganir y "pys" fel hyn - "PUUUUUUUS" :lol:

Nath Wncwl Dewi neud yn siwr mod i'n bwyta fy "greens"
drwy ddefnyddio y frawddeg i gymryd y "PUUUS" allan ohonai.
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Mr Gasyth » Mer 28 Gor 2004 10:58 am

Ella fod gen ti bwynt Gwen.

Dwi'n gwbod be ti'n feddwl wrth ddeud fod yr 'u' yn gryfach gan bobl ers talwm, dwi di clywed tapie hefyd, ond ma hen bobol yn sicir efo 'u' gryfach na rhai ieuengach.

Ella mai dylanwad deheuwyr ydi o, ond ma gen i ddamcaniaeth arall, ac fel arfer, y Saesneg sy'n cael y bai.
Tydi'r sain 'u' ddim yn bdoli yn Saesneg, y peth cosa ati ydi'r sain 'i' mewn geriiau fel 'tin', 'pin', 'film', 'mint'. Dwi'n ame fod Cymry Cymraeg heddiw, gan eu bod yn siarad a chlywed gymaint mwy o Saesneg na fuasai'r rhai ar y tapiau, yn defnyddio'r sain yma wrth siarad Cymraeg hefyd (neu rywbeth yn y canol falle).

Byddai Cymry hyn, heb gymaint o arfer o'r Saesneg yn defnyddio'r sain 'u' wrth siarad Saesneg. Da chi gyd wedi clywed rywyn yn gneud hyn, mae o'n un o'r pethe mwya digri am glywed hen ddyn Cymraeg yn trio siarad saseneg - 'dus us mai ffulm ies...'

Pam ei bod hi dal yn gryfach yn y gogledd ddwyrain, dwnim, a dwi'm yn siwr os dwi'n cytuno efo ti'n fanne. Bydd raid mi wrando'n fwy astud tro nesa dwi adre.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Gwen » Mer 28 Gor 2004 11:13 am

Ti'n iawn - yn anffodus. Yr 'i' Saesneg ydi o. Fi a fy 'e' :rolio: . Dyna'r sain on i'n feddwl.

Enghraifft arall o sut ydan ni'n cael ei cyflyrru'n ddiwylliannol. Mae hyd yn oed y rhai sy'n falch o fod yn Gymry, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol, ar lefel anymwybodol wedi penderfynu bod y sain naturiol, draddodiadol, yn "grinjllyd" ac yn ffafrio'r un Seisnig. :drwg:

Dewch â'r "U" Gymreig yn ôl!

(Pawb, dim jyst fi, neu mi fydda i'n swnio fatha Cynan)
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron