nawr fi'n gweld hwn, a ma raid i fi gydymdeimlo a thi gwen - unweth ma rhywun yn dechre trafod acenion yng nghymru ma hi'n mynd yn 'ni'n well na chi' ayb
ond heb drio dadlau paw sy'n well neu pwy sy'n iawn, ga i awgrymu fod cyfraniad ynghynt yn gweud fod gogleddwr yn cymysgu o glywed hwntws yng ynganu i ac u yr un peth, ond onid oes dadl hefyd i ddweud nad yw'r hwntws yn cael y trafferth i ddadansoddi beth mae rywun yn ddweud? fod y canrifoedd wedi golygu fod ymennydd yr 'hwntws' yn gallu handlo gwahaniaethu rhwng dau air sy'n swno run peth jest fod cyd-destun gwahanol.
Chi'n deall be sda fi?
Wy ddim yn gweud fod hyn yn well neu gwath chwaith.
Ma nghariad i yn dod o ochre Corwen, a chysylltiade cryf a Bala ac ma'r 'u' ogleddol yn yffyrnol o gryf gyda hi a'r bobol o fforna i'r gradde bo chi'n gweld eu tafode nhw'n stico mas a wedi cwrlo pan yn i weud e!

. Gogledd ddwyrain-ish.