Tudalen 5 o 5

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2004 8:01 pm
gan sian
Ches u erioud drafferth u sullafi.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2004 11:31 pm
gan Ramirez
Newydd fod yn y dafarn. Na phoener. Mae'r 'u' yn fyw ac yn iach.

"Duuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuuu(u)uuuuuuuuuuuwadd, slo pyncjar gefn tractor de mund tha cont yn fan ffwcin prud bynnag de duuuuuuuuuuuw ia."

PostioPostiwyd: Sad 31 Gor 2004 1:01 am
gan garynysmon
Fyswn i'n dweud fod 'u' yn cael ei bwysleisio ychydig cryfach ym Mhen Llyn na yn Sir Fon. Mae na wahaniaeth acen rhwng y ddau sir, er fod llawer yn credu fod nhw union yr un peth. Fedar rhywyn arall bacio fi fynnu ar y peth. Plis!

PostioPostiwyd: Sad 31 Gor 2004 2:30 pm
gan Gwen
Aled a ddywedodd:dwi'n amau dy fod yn bod braidd yn 'premature' yn son am ei marwolaeth.


Ia, ti'n iawn - roedd 'marwolaeth' braidd yn rhy gry. Ti'n gwybod be dwi'n feddwl - dwi wedi deud cynt, jyst trio dwad nôl at y pwnc on i.

Ydi, mae'r 'u' yn dal i fod yn fyw, ond ddim mor iach ag y buo hi. Ella na neith hi ddim marw chwaith, dim ond aros fel y mae hi mewn rhannau helaeth o'r gogledd erbyn hyn - yn ddynwarediad o'r sain Seisnig. Ond parch i bobl y gogledd-ddwyrain a Phen Llyn ac i gyd-yfwyr Ramirez ac i gariad y Cardi am ei hynganu hi fel y mae hi i fod.

PostioPostiwyd: Sul 01 Awst 2004 6:54 pm
gan Cardi Bach
Gwen a ddywedodd:
Aled a ddywedodd:dwi'n amau dy fod yn bod braidd yn 'premature' yn son am ei marwolaeth.


Ia, ti'n iawn - roedd 'marwolaeth' braidd yn rhy gry. Ti'n gwybod be dwi'n feddwl - dwi wedi deud cynt, jyst trio dwad nôl at y pwnc on i.

Ydi, mae'r 'u' yn dal i fod yn fyw, ond ddim mor iach ag y buo hi.


Neu falle mai jyst esblygiad naturiol iaith ar waith yw hyn.

PostioPostiwyd: Maw 03 Awst 2004 10:39 am
gan Mr Gasyth
Cardi Bach a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd:
Aled a ddywedodd:dwi'n amau dy fod yn bod braidd yn 'premature' yn son am ei marwolaeth.


Ia, ti'n iawn - roedd 'marwolaeth' braidd yn rhy gry. Ti'n gwybod be dwi'n feddwl - dwi wedi deud cynt, jyst trio dwad nôl at y pwnc on i.

Ydi, mae'r 'u' yn dal i fod yn fyw, ond ddim mor iach ag y buo hi.


Neu falle mai jyst esblygiad naturiol iaith ar waith yw hyn.


Ie, dwi'n cytuno. Ma rhaid ni boeni lli am y ffaith fod y Gymraeg yn newid. Mae pob iaith yn newid ac yn esblygu'n gyson, neu mae'n marw. Pan mae'n stopio newid, dyne pryd rhaid poeni.
Meddyliwch, faint ma Lladin llafar wedi newid dros y 500 mlynedd dwetha ma?

PostioPostiwyd: Maw 03 Awst 2004 11:35 am
gan Iesu Nicky Grist
Machlud Jones a ddywedodd:Mae diffyg y deheuwyr yn niwsans ac yn gallu creu dryswch.


Diffyg y deheuwyr? Dryswch?

Wel, odw braidd... :? HA!

Credu mai ti yw'r niwsans. (a'r dryswch).