Aran a ddywedodd:Deud y gwir, yn bersonol fuaswn i'n teimlo bod mwy o rôl i'r Bwrdd fynd ar ôl cwmniau megis IC Ales a rhoi pwysau arnyn nhw i sortio eu hunain allan, ond dydy'n annwyl Bwrdd ddim fel tasen nhw'n mwynhau dangos eu dannedd...
Mae'n dibynnu ar faint o'r cyhoedd sy'n cwyno'n uniongyrchol a faint o gliw sydd yn Trinity ar ffordd i ddatrys y broblem.
Mi roedd Golwg am flynyddoedd lawer yn methu rhoi acenion o gwbl yn eu testun ac yna yn trio am hydoedd ond roedd e'n dod allan yn anghywir wedi iddo fynd drwy'r wasg. Dyw S4C dal heb lwyddo i gael llythrennau acennog yn gywir ar y wybodaeth rhaglenni sy'n cael ei ddangos ar setiau digidol daearol - er fod y dechnoleg wedi ei gynllunio'n ofalus i gefnogi y Gymraeg.
Hynny yw, mae llawer tu ôl y llenni yn ymdrechu i fod yn gywir ond mae'n gythreulig o anodd gan fod rhywbeth bob tro yn y gadwyn o'r cyfrifiadur i'r wasg (neu o'r darlledwr i'r bocs bach digidol) wedi ei lunio gan rhywun sy'n credu mai saesneg yw'r unig iaith yn y byd.
Aran a ddywedodd:Difyr - felly ella bod ganddyn nhw CMS sydd ddim yn adnabod acenion Cymraeg, mor syml â hynny? Gwael iawn, os felly... beth yn union ydy UTF-8 (mae gen i ddealltwriaeth cyffredin, ond dio'm yn fanwl, ti'n gweld)?
UTF-8 yw'r ffurf hawsa o sgrifennu llythrennau Unicode sy'n cynnwys llythrennau acennog ynghyd a gwyddorau rhan fwyaf o ieithoedd arall y byd.
Mae llythrennau ASCII (neu'r wyddor saesneg syml) yn ffitio yn uniongyrchol i fewn i set lythrennau UTF-8 . Y broblem yw - os oes rhywun yn teipio â i fewn o beiriant Windows, mae'n cael ei ddanfon i'r gweinydd gyda set lythrennau Windows-1252 sydd yn defnyddio codau gwahanol i Unicode. Dwi'n
meddwl fod OS/X a Linux yn danfon testun drwy UTF-8.
Ar y gweinydd mae'n bosib newid Windows-1252 i UTF-8 os ydych chi'n siwr fod y cynnwys wedi dod o Windows a felly mi fydd y testun yn y gronfa ddata mewn fformat 'saff'.
Yn ôl beth dwi newydd drio.. mae meddalwedd phpbb yn newid llythrennau acennog yn syth i godau HTML yn hytrach na UTF-8 . Mae hyn yn iawn am nawr, ond yn y dyfodol agos pan fydd pob system yn gweithio gyda UTF-8 yn naturiol fe ddylai fod yn bosib torri a phastio testun o un lle i'r llall heb golli dim byd (croesi bysedd)