Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 04 Awst 2004 2:51 pm
gan Mr Gasyth
Aran a ddywedodd:Gorymateb braidd, ti'm yn meddwl? Dw i'm yn cofio neb yn deud y dylai hyn fod yn flaenoriaeth - ac mae hon yn wefan drafod, wedi'r cyfan.


Dwi'm yn dallt dy bwynt. Trafod dwi'n neud, a rhoi fy marn na fusawn i'n gweld gwariant ar hyn gan Fwrdd yr Iaith fel defnydd gwerth chweil o'u adnoddau.

PostioPostiwyd: Llun 09 Awst 2004 12:15 pm
gan brenin alltud
Aled a ddywedodd:Trafod dwi'n neud, a rhoi fy marn na fusawn i'n gweld gwariant ar hyn gan Fwrdd yr Iaith fel defnydd gwerth chweil o'u adnoddau.


Ond pwy arall ddylse wneud te? Maen nhw'n rhoi cyfarwyddiadau ar ddylunio dwyieithog i fusnesau, sy'n cynnwys dipyn o bethau technegol, a dweud o'n i y dylse nhw ffeindio un ffordd sicr i ddangos i bobol sut maen bosib cael toeon bach yn ddidrafferth bob tro. Mae'n broblem sy'n codi bobman, drwy'r amser, yn enwedig ar y we.

Do'n i ddim yn meddwl mai nhw ddylse fod yn neud yr ymchwil a'r trafod tu ôl i'r gwaith technegol. Fe alle nhw, ysywaeth, ddefnyddio arbenigedd eraill o unedau ieithyddol prifysgolion fel Canolfan Bedwyr i egluro drwy farchnata i leygwyr y byd technegol sy'n darparu pethau dwyieithog sut i fynd ati i sicrhau bod eich iaith yn ddilychwin ar ddeunyddiau cyhoeddus.

Y 'pethau bychain' ma sy'n cael eu hanwybyddu'n aml ac maen nhw'n adlewyrchu ryw ddifaterwch at ddatblygiad yr iaith yn 'y marn bach i.

Se'r Bwrdd yn gallu talu am gyfarwyddiadur technegol trylwyr a chlir i'w ddosbarthu i gwmnie a chyrff gyda'r arian maen nhw'n ei wario ar win mewn lansiadau, debyg.