Tudalen 1 o 1
Oes gair Cymraeg am 'repercussions'?
Postiwyd:
Gwe 06 Awst 2004 3:01 pm
gan dimbendith
Unrhywbeth heblaw canlyniadau?
Unrhywun...?
Diolch!
Postiwyd:
Gwe 06 Awst 2004 3:30 pm
gan Madrwyddygryf
ôl-effaith.
Am feddwl bod rhaid i mi gymeryd TGAU Cymraeg dwywaith er mwyn i'w basio. Dwi wedi syfrdannu bo fi'n gwybod y gair.
Postiwyd:
Gwe 06 Awst 2004 6:58 pm
gan Dias
Oblygiadau.
Dwi'n meddwl mae fi sydd yn iawn.
Postiwyd:
Gwe 06 Awst 2004 7:03 pm
gan krustysnaks
Dias a ddywedodd:Oblygiadau.
Dwi'n meddwl ma
e fi sydd yn iawn.
clôs, ond dim sigâr
Postiwyd:
Sul 08 Awst 2004 10:25 am
gan Chris Castle
Hefyd -
sgil-effeithiau
adleisiau
atseiniau
datseiniadau
adlamau
gwrthlamau
Postiwyd:
Llun 09 Awst 2004 11:43 am
gan Iesu Nicky Grist
Dias a ddywedodd:Oblygiadau.
Dwi'n meddwl mae fi sydd yn iawn.
Dias bach. A'i cam dreigliad o 'implications' yw Oblygiadau????????????????????
Postiwyd:
Llun 09 Awst 2004 12:01 pm
gan Dias
GOBLYGIADAU.
Fi sydd yn iawn.
Sdopiwch sbeitio fi.
Postiwyd:
Llun 09 Awst 2004 12:07 pm
gan Iesu Nicky Grist
Goblygiadau yw implications, nid repercussions. (Sori 'dy sbeitio di)
Postiwyd:
Llun 09 Awst 2004 2:19 pm
gan Ray Diota
Dias a ddywedodd:Oblygiadau.
Dwi'n meddwl mae fi sydd yn iawn.
chware teg ddo, ma 'implications' a 'repercussions' yn ffwcin debyg. A ma goblygiad yn well na ôl-effaith. Ffaith... Barn.