Edefyn am yr edefyn

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Edefyn am yr edefyn

Postiogan Machlud Jones » Maw 10 Awst 2004 11:22 am

Dwi wedi bod yn meddwl ers tro byd bod edefyn yn hen derm gwirion - Dydi'r gair ddim yn cyfleu yr hyn sydd yn digwydd sef trafodaeth am bwnc neu destyn penodol. Yn fy marn i mae'n air stiff iawn sydd yn drosiad slafaidd o'r saesneg. Dwi'n meddwl bod cyfieithu "thread" i "edefyn" rhywbeth tebyg i gyfieithu "minutes" mewn cyfarfod i fod yn "funudau" yn hytarch na "cofnodion". H.Y. y gair sy'n cael ei gyfieithu'n llythrenol yn hytrach na'r ystyr.
Machlud Jones
 

Postiogan krustysnaks » Maw 10 Awst 2004 11:27 am

felly beth yw dy awgrymiadau am derm arall?
beth sydd am eilyddio edefyn?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan eusebio » Maw 10 Awst 2004 11:35 am

sgwrs?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Machlud Jones » Maw 10 Awst 2004 11:39 am

krustysnaks a ddywedodd:felly beth yw dy awgrymiadau am derm arall?
beth sydd am eilyddio edefyn?

Trafodaeth, Pwnc, Testun, Pwnc Trafod, Testun Trafod.

Tra mod i arni be am Gwenogluniau? Di'r gair yma'n cyfleu sod all i mi. Be sydd o'i le ar Stumiau, Gwyneba Gwirion, Gwen Luniau. Unwaith eto trosiad slafaidd o Smileys.

Beth am rthithffurf - gair stiff drybeilig - be am llun personol.

Gormod o gyfieithu yn syth o'r geiriadur heb gamu nol am chydig a meddwl beth yw ystyr y termau Saesneg ma a thrio cyfleu'r ystyr hwnw yn y term Cymraeg. Dwi'm yn dweud mai'n awgrymiadau i yw'r ateb ond ma angen trio defnyddio geiriau symlach yn hytrach na ryw eiriau hyll a stiff, sy'n neud i Gymraeg edrych fel ryw iaith uffernol o stiff. Pan ma bobl yn chwarae Pel-droed ma'r hyfforddwr yn dweud "keep it simple" - dyna sydd angen wrth gyfieithu termau dim creu ryw eiriau stiff anealladwy.
Machlud Jones
 

Postiogan Machlud Jones » Maw 10 Awst 2004 11:40 am

eusebio a ddywedodd:sgwrs?

Hwna ydio - ma'n lot symlach a'n neud lot mwy o sens na edefyn.
Machlud Jones
 

Postiogan krustysnaks » Maw 10 Awst 2004 11:45 am

Dwi'n hoffi rhithffurf yn fawr iawn, a'r holl eiriau rhith... arall.
Dwi'n hoffi'r dimensiwn rhithfyd vs cigfyd.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan nicdafis » Maw 10 Awst 2004 12:31 pm

Dyna beth ti'n cael o adael i ddysgwyr wneud y gwaith cyfieithu i gyd. Ble o't ti yn Awst 2002, Machlud?

Na, o ddifri, dydy'r geirfa ni'n defnyddio ar y maes ddim yn "swyddogol" mewn unrhyw ffordd. Mae rhai geiriau wedi ennill eu lle erbyn hyn ("rhithffurf", er enghraifft) a rhai sy ddim ("gwenoglun" - dw i'n gwybod bod sawl un ddim yn hapus â hwnna). Am wn i, dydy'r gair "edefyn" ddim yn ymddangos yng nghyfieithiad phpBB o gwbl: "pwnc" yw'r gair defnyddiwyd yna. Dw i'n derbyn dy bwynt am gyfieithiad diog o Saesneg, ond mae ystyr <i>thread of narrative</i> yng Ngeiriadur y Prifysgol, felly dyw e ddim yr un peth â munudau/cofnodion (sef, cam-gyfieithiad).

Ond does dim rhaid i ti ddefnyddio'r gair os ydy e'n dy boeni di.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 10 Awst 2004 12:45 pm

[Mae hyn bach yn drist, sori...]

Wedi pori trwy'r archifau, dw i'n gweld taw fi oedd yr unig berson i ddefnyddio'r gair "edefyn" ar y maes rhwng 18 Awst 2002 ac 11 Ionawr 2003, pan ddechreuodd <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=342&highlight=edefyn">SbecsPeledrX</a> ledu'r haint. Ar 23 Ionawr, wnaeth <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=351&highlight=edefyn">Mici Mac</a> codi'r baton, ac oedd rhaid aros tan 24 Mawrth nes i <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=581&highlight=edefyn">Gardi Bach</a> ddechrau defnyddio fe. Aeth popeth lawr y rhiw o fan'na, wrth gwrs.

Mae 'na draethawd yma rhywle.

Felly, arna i yw'r bai, am gario geirfa o negesfyrddau Saesneg draw i'r maes yn ddi-feddwl. Dw i'n mynd mas nawr i chwipio fy hun gyda ysgall.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 10 Awst 2004 1:06 pm

nicdafis a ddywedodd:Dw i'n mynd mas nawr i chwipio fy hun gyda ysgall.
Wncwl Russell?
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Dylan » Maw 10 Awst 2004 1:11 pm

'Dw i'n eitha' hoff o'r geiriau 'ma i gyd i ddweud y gwir. "Rhithffurf" yn enwedig. Sut ellid cyhuddo hwnnw o fod yn gyfieithiad slafaidd a gor-llythrennol o "avatar"?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron