Sut yd achi fod i dreiglo bwcio heb iddo edrych fel anogram o cwfio? Ddim yn trio bod yn immature a chwerthin ar eiriau rude ydwi, ond o ni'n gneud poster o blaen ac oddo jest yn sefyll allan.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Dw i'm yn meddwl bod archebu'n air briodol (ond efallai ei fod). Ond dw i'm chwaith yn credu dy fod ti'n gallu treiglo bwcio mewn unrhyw ffordd arall onibai am 'fwcio' (i fwcio, wrth fwcio - dechrau dallt pan ti'm isho'i dreiglo, a deud y gwir).
Ymha gyd-destun wyt tisho defnyddio'r gair?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?" "Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"
Beth am drio cyfieithu ystyr y ferf yn lle'r gair? Mae'n dibynnu ar pa mor gwta wyt ti angen bod ond fe alli di 'sicrhau band/drymar ar gyfer gig' neu 'drefnu gitarydd ar gyfer sesiwn'.. y math yna o beth..