Cathays

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 12 Awst 2004 2:05 pm

O reit! Felly rhoi gwrthbwyso'r duedd o roi enwau estron drwy... roi enwau estron... :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint Edwards » Iau 12 Awst 2004 2:14 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:O reit! Felly rhoi gwrthbwyso'r duedd o roi enwau estron drwy... roi enwau estron... :rolio:


Ni all y Gymraeg fod yn estron o fewn Cymru, oxymoron fyddai hynny. Yr unig reswm bod Cymru yn dal i fodoli fel cenedl yw y ffaith bod yna edefyn tenau a brau o'r enw "Yr iaith Gymraeg" yn ei dal ynghyd. Dydwi ddim felly yn gweld rhoi enw Cymraeg ar rywle yng Nghymru fel rhoi enw estron ar y lle hwnnw.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Iau 12 Awst 2004 2:29 pm

O'n i'n meddwl mai Y Waun Ddyfal oedd yr hen enw am Cathays? Hen enw'r fferm oedd yna'n wreiddiol neu rywbeth? Dyna mae'r bardd/cyfreithiwr Emyr Lewis yn ei ddweud, o'n i'n meddwl.
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Geraint Edwards » Iau 12 Awst 2004 2:47 pm

brenin alltud a ddywedodd:O'n i'n meddwl mai Y Waun Ddyfal oedd yr hen enw am Cathays? Hen enw'r fferm oedd yna'n wreiddiol neu rywbeth? Dyna mae'r bardd/cyfreithiwr Emyr Lewis yn ei ddweud, o'n i'n meddwl.


Heath yw'r Waun Ddyfal. Mae yna ysgol yn Lower Heath o'r enw "Ysgol Mynydd Bychan", felly dwi'n cymryd mai Lower Heath yw Mynydd Bychan a Upper Heath yw'r Waun Ddyfal.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Iau 12 Awst 2004 3:11 pm

Ond dw i'n confunsd, fel ma genod Llandwrog yn dweud. Maen nhw yn ei ddefnyddio ar gyfer Cathays, ond dw i ddim yn gwybod ai dylanwad y Cymry Cymraeg yw e.

Be' am Ysgol y Waun Ddyfal? Ai'r Cymry Dwad sy' wedi dechre galw Ysgol Cathays yn hynny mewn camgymeriad felly? Synnen i daten...
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 12 Awst 2004 3:21 pm

ffyc, dwi wedi agor can o fwydod, fel dwed y sais.

a neb i ddechre dadle taw can o pry genwair ddylen i ddweud chwaith :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Geraint Edwards » Iau 12 Awst 2004 3:35 pm

Be am inni gau'r mwdwl ar hyn i gyd, a chael gwared o'r enwau Cathays a Heath o'r Saesneg, a mynd am yr opsiwn Los Angeles-aidd: North-central. A galw'r ardal yn "Gogledd-ganol" yn Gymraeg. Hmm, ella ddim wedyn....
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 12 Awst 2004 6:37 pm

Duwadd, Cathays bydd Cathays a dyna'r diwedd arni amwni. 'Nenwedig os enw Ffrengig yw hi. Mae 'na Stuttgarter Strasse lawr lôn 'cw, rhywun am ei newid o'r Almaeneg, neu os 'na ots?

Cathays yw Cathays ers cyn co' amwni. Gadwch hi fod mewn heddwch.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan bartiddu » Iau 12 Awst 2004 8:42 pm

Yn ol geiriadur llefydd yn Ynysoedd Prydain Rhydychen :-


Enclosure inhabbited by wildcats

o'r hen saesneg catt + haga 1699

na be' sy' yn y llyfr ta beth!

dwy'n crybwyll Cathlecyn! :)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Geraint Edwards » Gwe 13 Awst 2004 8:01 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Duwadd, Cathays bydd Cathays a dyna'r diwedd arni amwni. 'Nenwedig os enw Ffrengig yw hi. Mae 'na Stuttgarter Strasse lawr lôn 'cw, rhywun am ei newid o'r Almaeneg, neu os 'na ots?

Cathays yw Cathays ers cyn co' amwni. Gadwch hi fod mewn heddwch.


Ie, Rachub sy'n iawn a ddweud y gwir. Bolycs oedd son am "north-central" a Chaerathwys(???) ynghynt, ma raid imi gyfaddef. Ond er mwyn gwneud pethau'n iawn, oni ddylian ni sillafu'r lle mewn ffordd ffonetig pan danin sgwennu yn Gymraeg: e.e. sgwennu "Catês" yn hytrach na "Cathays"?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai

cron