Tudalen 1 o 3

Cathays

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 11:35 am
gan Mihangel Macintosh
Dwi'm meddwl fod hwn wedi ei drafod yn y gorffennol ar y maes, ond a oes enw Cymraeg i'r ardal hyn o Gaerdydd?

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 11:36 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Rwy' wedi gweld rhywun yn defnyddio Caer Athwys, ond ceilliau llwyr yw hyn, mi dybiaf. S'mo Brwsi-wsi-woo yn cynnig affliw o ddim.

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 12:39 pm
gan Geraint Edwards
Mae angen enw Cymraeg deffinitive ar y lle yma, unwaith ac am byth.

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 1:01 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Geraint Edwards a ddywedodd:Mae angen enw Cymraeg deffinitive ar y lle yma, unwaith ac am byth.


Pam? :?

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 1:03 pm
gan Barbarella
Os dwi'n cofio'n iawn, enw Ffrangeg yw Cathays yn wreiddiol... rhywbeth am berthi dwi'n meddwl (gwrych = haie).

Ai chwilio am enw Cymraeg y'n ni, neu enw sy ddim yn Saesneg? ;-) Os yr olaf, mae Cathays yn iawn...

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 1:06 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hollol, Babs. Byddai 'chwilio am enw Cymraeg' yn llwyr ymwrthod ag unrhyw ddylanwad arall ar ardal sydd wedi bod yn gosmopolitanaidd ers oes pys. Beth yw'r pwynt 'chwilio am enw Cymraeg' os nad yw o reidrwydd yn bodoli? Os yw'n bodoli, gwych, ond s'dim pwynt bathu enw.

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 1:42 pm
gan Geraint
Darllenes i rhywle unwaith, fod yr hayes yn dod o'r saesneg fel dwedodd babs, ond efallai fod y Cat yn dod o'r gair Cymraeg 'Gad', am i frwydr cymryd lle yno unwaith. Felly cyfuniad o saesneg a cymraeg ydyw!

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 1:51 pm
gan Geraint Edwards
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Geraint Edwards a ddywedodd:Mae angen enw Cymraeg deffinitive ar y lle yma, unwaith ac am byth.


Pam? :?


Pam lai? Mae na ddigon o enghreifftiau o bobl o'r tu allan wedi rhoi enwau diarth ar lefydd yng Nghymru, lle oedd enwau Cymraeg yn bodoli yn y llefydd hyn eisioes (e.e. Kingsland/Penllechnest, Môn/Anglesey, tai haf ardal Harlech :rolio: ...). Os cawn nhw wneud hynny, be sydd yn stopio ni rhag cael enwau Cymraeg ar lefydd sydd ond ar hyn o bryd gydag enwau Saesneg/Normanaidd?

Mae na safle ar y we rywle (dwi'n meddwl) sydd yn rhoi esboniad manwl o darddiad "Cathays", ond fedrai'm yn fy myw ei ffeindio!

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 1:51 pm
gan Geraint
Dyma'r linc

CATHAYS
The Cat Hayes. The immediate north-eastern suburb of Cardiff. The name originally stood for an open tract of common land, now represented by Cathays Park. The name, which is found at other towns also, would seem to point to the site of a battle - -Welsh cad, Irish cath.

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 1:58 pm
gan Geraint Edwards
Geraint a ddywedodd:Dyma'r linc

CATHAYS
The Cat Hayes. The immediate north-eastern suburb of Cardiff. The name originally stood for an open tract of common land, now represented by Cathays Park. The name, which is found at other towns also, would seem to point to the site of a battle - -Welsh cad, Irish cath.


Byddai "Maesygad" neu "Cadfaes" yn gallu bod yn enw go lew i'r lle yn Gymraeg, does bosib.

Maes = Saes. "hayes"
+ Gad = treiglad meddal o Cym. "cad" = brwydr.

Be dachin ei feddwl?