Diolch. Wrthi'n sgwennu rwbath am Light and Colour (mewn cyd-destun Gwyddonol) - felly, mi ydan ni'n eitha cytun mai Goleuni yw'r gorau yn hyn o beth... (Yn sicr nid goleu yn yr ystyr yma
Er, byddai'n ddifyr rhoi iaith Ceiriog a'i gyfoeswyr o dan y meicrosgôp...)
Hmm - tra 'dan ni yma - o dan meicrosgop ta i mewn yn y meicrosgop sy'n gywir? Ta rwbath hollol wahanol sy'n profi bod fy meddwl ynghwsg ar brynhawn Llun fel hyn...