Diwedd treugliad 'ng'?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diwedd treugliad 'ng'?

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 17 Awst 2004 6:02 pm

Dw i wedi sylweddoli ers cryn amser rwan bod y treigliad C>NG yn un sydd yn troi yn fwy o C>G. Sbiwch be dw i'n feddwl:

yng Nghymraeg = yn Gymraeg
yng Nghaernarfon = yn Gaernarfon

Mae mwy o bobl yn dweud ac yn defnyddio y 'g' yn hytrach na'r 'ng' dreugliedig. Dw i cyn euoged a neb o wneud hyn, yn arbennig pan yn siarad, ond hefyd tra wrthi'n ysgrifennu o bryd i bryd (er nid mewn modd ffurfiol).

Ydi'r 'yng Ngh...' am gael ei ddisodli gan 'yn G...' yn y diwedd, tybed? Ydi hi'n newid ieithyddol annatod?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan krustysnaks » Maw 17 Awst 2004 6:18 pm

yng Nghymraeg ddim yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn, dim ond yn y cyd-destun "yng Nghymraeg y person hwn" yn hytrach na "popeth yn Gymraeg". ond enghraifft gwael ydy hyn nid pwynt gwael.

Dim ond mewn rhai llefydd dwi'n meddwl ydy fy ateb i i dy gwestiwn. Tra bod treiglo y mwyafrif ohonom ni'n llac, dwi ddim yn gweld y trwynol yn marw'n gyflymach na'r un o'r lleill.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Mr Gasyth » Maw 17 Awst 2004 6:47 pm

Yn bersonnol fedrai'm dallt o lle ddaeth y trwynol ma i gychwyn. Tra bo pob treigliad arall yn swnio'n well neu'n haws ei ddeud, fedrai'm gweld pwynt hwn a does gen i'm cof o glywed eglurhad ysgolheigaidd iddo ychwaith.
Byddai'n haws gwybod pam ei fod yn diflanu petaem yn gwybod pam yr ymddangosodd yn y lle cynta.
Unrhyw raddedigion Cymraeg all egluro?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan nicdafis » Maw 17 Awst 2004 7:40 pm

Mae "yn Gymraeg" yn hollol gywir, am wn i - "yn (y) Gymraeg" yw'r ystyr.

Mae "yn Gaernarfon" yn angywir, yn ôl y llyfrau, ond dyna beth mae llawer o bobl yn dweud, felly bydd rhaid newid y llyfrau cyn bo hir iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 17 Awst 2004 8:21 pm

pam? ma 'na lot o betha y'n cael eu deud ar lafar sydd ddim yn gywir yn ysgrifenedig. er enghraifft - lot, uchod - dwi'n 'i ddeud o'n aml, ond 'di hynny'm yn deud 'i fod o'n gywir nac yn galw am newid yn y gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan dafydd » Maw 17 Awst 2004 9:43 pm

Mae'n eironig falle fod siaradwyr cymraeg un o ardaloedd cymreicia Cymru yn dweud "yn g'nafron" ac un o'r ardaloedd lleiaf cymreig yn dweud "yn g'rdydd" ond dwi'n credu fod hi'n bosib maddau diffyg treiglo ar lafar. Y broblem yw pan nad yw siaradwyr cyffredin yn deall y gwahaniaeth - dwi'n eitha siwr fod y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg dyddie 'ma ddim yn sgrifennu neu ddarllen fawr ddim yn y Gymraeg (ar ôl gadael yr ysgol) a felly dyw gramadeg cywir (ysgrifennedig) ddim yn bwysig iddyn nhw.

Mae'n eitha diddorol ymchwilio ar google ynglyn a hyn:

yng nghaernarfon - 1640
yn nghaernarfon - 28
yn caernarfon - 15
yn gaernarfon - 12
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 46 gwestai

cron