brenin alltud a ddywedodd:A chytuno - mae isie tsiecio welsh-termau-cymraeg gynta' i weld be' drafodwyd.
Wedi edrych ar y drafodaeth yn barod - digon hawdd yw ymuno ac edrych ar y drafodaeth dy hun, Ray.
Rwy'n siwr mai ymweliadau 'wy wedi'i ddefnyddio yn y gorffennol (yn rhannol gan nad ydw i'n deall esboniad Dafydd Tomos! )
Dafydd Tomos a ddywedodd:Wel dyna lle mae'r broblem yn dechrau. Ymweliadau yw 'visits' a mae
hwn wedi cael ei ddiffinio yn swyddogol gan nifer o grwpiau safoni fel
'a series of Page Impressions viewed by an User in one visit'
(fel arfer mae 'visit' yn golygu fod bwlch o 30 munud neu fwy rhwng
pori trwy'r wefan).
lle mae 'Page Impression' = 'a file or collection of files requested
by one User to draw a single web page'.
Mae 'hits' yn golygu gofyniad ar gyfer ffeil HTML, neu graffeg, neu
ffeil Javascript neu CSS neu ddogfen PDF neu unrhyw ofyniad arall drwy
brotocol HTTP. A dyna pam mae pobl yn hoff o son am 'hits' - mae'r
nifer o hits yn llawer uwch na'r nifer o 'ymweliadau'.
Ond ta beth, yn aml dyw'r bobl sy'n sgwennu dogfennau ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng 'hit' a 'visit', felly rwy'n teimlo bod 'ymweliad' yn iawn, oni bai fod y ddogfen yn un arbenigol. Dim ond ambell i geek cyfrifiadurol fydd yn cwyno!