Don i'm di meddwl am hyn tan ddoe pan gesh i fy nghyhuddo o "siarad Gog gwael" gan fy nghariad am ddeud fod "yr ecob di sblitio lawr yr ochor". 'Ecob' dwi di ddeud erioed a don i rioed wedi meddwl amdano fel 'egg-cup' tan iddo fo ddeud. Fyswn i'm yn deud 'cwpan wy' ac mae 'ecob' ('egob' yn y de) yn cael ei nodi yng Ngeiriadur yr Adacemi.
Meddwl felly faint ohonoch chi sy'n deud be.