Aros, disgwyl...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa air ydach chi fwya tebygol o'i ddefnyddio?

Aros
20
59%
Disgwyl
2
6%
Gwitshad
9
26%
Gweitiad
1
3%
Arhosyd (oce, ond mae o yn y Geiriadur)
1
3%
Rhywbeth arall (Beth?)
1
3%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Aros, disgwyl...

Postiogan Gwen » Maw 24 Awst 2004 9:37 am

Yn onest rwan, be fysach chi'n ddeud? Mae hi'n bleidlais gudd, cofiwch. :winc:
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 24 Awst 2004 9:40 am

Aros. Mae disgwyl yn golygu edrych neu 'expect':
"shgwl ar yr anibendod mewn man 'yn!"
neu "o'n i'n dishgwl i hynna ddigwydd".
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan sian » Maw 24 Awst 2004 10:34 am

Mae'r arwyddion wrth oleuadau traffig wedi bod yn destun tipyn o jôc yma - "Pan welwch olau coch - safwch yma" - roedd y plant arfer treio sefyll ar eu traed yn y car. Ho, ho - bach yn ddiflas ar ôl y canfed tro!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan garynysmon » Maw 24 Awst 2004 10:42 am

Wel, yn y cyfystyr rhywyn yn aros yn ei unfan, byswn i'n dweud 'disgwl'. e.e, 'wnai ddisgwl yn famma amdanat ti' neu 'wn i'n disgwl am y bys am hanner awr'. Ond mae gen i ffrind sydd yn dweud 'arhosyd' am rhyw reswm. :?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Treforian » Maw 24 Awst 2004 12:23 pm

gwitshad yn y cyswllt
fedra' i ddim gwitshad
ond aros yn y cyswllt
aros yn fana
Treforian
 

Postiogan Barrar » Maw 24 Awst 2004 7:23 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Aros. Mae disgwyl yn golygu edrych neu 'expect':
"shgwl ar yr anibendod mewn man 'yn!"
neu "o'n i'n dishgwl i hynna ddigwydd".


Cytuno, dyna pryd wi'n defnyddio fe hefyd. Aros byddwn yn dweud am 'wait'. Byddwn i ddim yn dweud 'disgwyl babi' chwaith ond 'erfyn babi' (wel o leia na beth on i'n gweud cyn symud i aber :wps: !!) Ond bach o ffric ydw i!
Rhithffurf defnyddiwr
Barrar
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Llun 21 Meh 2004 1:31 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan methu meddwl » Maw 24 Awst 2004 10:13 pm

main dibynnu, er enghraifft :

"oce nai ddisgwl yn fama" neu
" OI CHDI, WITCHA!!!"
mae aml drol yn troi cyn cyrraed yr ardd
Rhithffurf defnyddiwr
methu meddwl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 365
Ymunwyd: Maw 17 Meh 2003 10:59 pm
Lleoliad: ty v,nunlla sbeshal..acshyli na,ma pontllyfni yn sbeshal iawn!!

Postiogan Slinci » Mer 25 Awst 2004 12:20 am

methu meddwl a ddywedodd:main dibynnu, er enghraifft :

"oce nai ddisgwl yn fama" neu
" OI CHDI, WITCHA!!!"


O ydi.

I'r hogyn bach pan oedd o yn un oed - "Aros...Aros fana"
Erbyn pan oedd o yn bump - "Weitia...WEITIA, (o mai god!!!!!) WEITIA, PAID!!!"

A mi eith o ymlaen fel hyn am tua pymtheg mlynedd arall. Gyda fo yn cymeryd llai a llai o sylw. :(

Ac yn tre Cofis, Weitiacont. Gai fwrw pleidlais i hwna plis. :?
Helo, dwi'n slinci.
Rhithffurf defnyddiwr
Slinci
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Gwe 23 Gor 2004 8:23 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Postiogan Cawslyd » Llun 30 Awst 2004 11:05 pm

Dwi'n licio deud Witchad, Aros a Disgwyl.

Dwi'n Witchad am Fys.
Dwi'n Disgwyl amdanat ti
Ac Aros am y rhanfwyaf o betha eraill.

O! Wot a fyrtiwys focabiwlari ai haf.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Dan Dean » Llun 30 Awst 2004 11:27 pm

methu meddwl a ddywedodd:main dibynnu, er enghraifft :

"oce nai ddisgwl yn fama" neu
" OI CHDI, WITCHA!!!"

Digon gwir. Dwi hefyd yn ddueddol o deud Gwitsia, Aros a Disgwl.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 46 gwestai

cron