Geraint a ddywedodd:Dwi di dechrau dweud diolch yn lle ffanciw hefyd. Diolch nid ffanciw...slogan da!
Nesi feddwl lot bore ma. Yndyn da ni yn dweud diolch am ein bont wedi ei magu i feddwl mae hwn yw'r peth iawn i ddweud. Dwi yn trio meddwl tu hwnt i rheswm mor syml a hyn, a deifio mewn i seicoleg y peth!
Mae iaith yn gôd cymdeithasol (
deja vu - 'di gweud hyn gynnai ar y maes - sori) a mae 'na wasgedd arnom i gydymffurfio i'r côd yna, achos mai dyna be mae cymdeithas yn ei ddisgwyl... Yw'r gwasgedd i gydymffurfio, felly, yn rhwygo'r ystyr o'r ymadrodd gan ein arwain at ebychu gair gwag yn hytrach 'na mynd i drafferth i fynegi ein gwerthfawrogiad? Ai dyna ti'n gofyn Geraint?
I ateb (fy nghwestiwn i os nad dy un di) Wy'n meddwl bo fe'n dibynnu ar y person - sdim modd dod i ganlyniad cyffredinol. Weithiau byddai'n dweud Diolch heb feddwl am y peth - er engraifft i yrrwr bws, a weithiau byddai'n ei ddweud heb wir werthfawrogi'r hyn rwy'n ei dderbyn - er engraifft, pan fod rhywun yn rhoi fflyer i fi ar y stryd... Ond ar y cyfan mae'n air bach handi, a dyw'r ffaith mod i'n ei 'gamddefnyddio' weithiau ddim wir yn newid y cyfan rwy am fynegi pan 'mod i'n dweud, o waelod calon, Diolch i bawb a phob un am gyfrannu i'r drafodaeth ddifyr hon...
a ma gwenu'n helpu
Diolch am eich amser