Smwddio

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Smwddio

Postiogan Treforian » Iau 26 Awst 2004 1:45 pm

Be ydach chi yn galw'r peth metl trwm mae rhai pobl yn ei ddefnyddio i smwddio dillad?
Ai hetar?
Ai hityr?
Ai hitar?
Ai smwddar?
Ai haearn?

Dyrys.
Treforian
 

Postiogan Geraint » Iau 26 Awst 2004 1:52 pm

Haearn smwddio.

Gai adio Sdilo i'r rhestr, sef y gair mae fy mhertnasau yn Sir Benfro yn defnyddio am smwddio.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Jeni Wine » Iau 26 Awst 2004 3:11 pm

hetar de'r het.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 26 Awst 2004 3:15 pm

Haearn smwddio. Ond ar hyn o bryd "Jystffycingweithia'rffycinbastardpethbethsyddo'ilearnotti
maenrhaidifigaelycrysmanbarodmewndegmunudaaaaarggghhh!" yw e, achos bod e wedi torri. :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dwlwen » Iau 26 Awst 2004 3:15 pm

'arn smwddo, d'yfe?

hito'r ty ma'r hityr, a Juan sy'n whare hitar
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 26 Awst 2004 3:38 pm

'arn? :ofn: braich yn susnag, efo anwyd, 'di arn, ia?

hetar smwddio.

sori i darfu ar dy drafodaeth treforian, ond mae o'n berthnasol... achos cyn yr hetar mae o'n digwydd. be 'da chi'n galw'r peth 'na lle ma'r dillad yn mynd i sychu ac yn cael eu dal efo pegs?
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Jeni Wine » Iau 26 Awst 2004 3:41 pm

lein ddillad a hors (ond dim pegs ar yr hors ofiysli)
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Geraint » Iau 26 Awst 2004 3:42 pm

Y lein.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 26 Awst 2004 3:48 pm

ma na mball berson od yn y byd ma'n deud llinell a ceffyl.

rwan, ai jysd cyfieithiada bach ydi'r rhein, a dim arall, ta ddyla bo ni'n 'u defnyddio nhw? tydi hetar, er enghraifft, ddim yn gymraeg da iawn nadi?

ta sdwffio llinell, 'arn a ceffyl?

lein, hetar, hors.

:P
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Geraint » Iau 26 Awst 2004 3:52 pm

Be da chi'n deud am y peth sy'n golchi dillad?

Mashin olchi.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 45 gwestai

cron