Smwddio

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 27 Awst 2004 6:16 pm

Haearn smwddio fydda i'n ddeud, ond gas gen i ddeud fy mod i'n dweud 'washing machine' yn hytrach na 'pheiriant golchi'. Lein ddillad 'fyd.

+ dw i'n dweud meicrodon. Mae'n air cwl :D
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan bryn 'ken' fon » Sad 28 Awst 2004 11:55 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
+ dw i'n dweud meicrodon.


no we, on i'n meddwl mai mond fi odd ddigon hen-ffash i ddeud meicradon?!he he he. diom cweit yn cyfieuthu chwaith, mi ges i olwg wirion pan ddudus i 'micro-don' yn fy acen susnag ora pan yn iafncach! :rolio:

peiriant golchi dillad
peiriant golchi llesdri
tymbyl draiyr (er heb ei ddefnyddio ers peth amser gan fod y ffwcar wedi torri)
lein ddillad
heuarn smwddio
blwwws ty golchi
Rhithffurf defnyddiwr
bryn 'ken' fon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 67
Ymunwyd: Mer 14 Gor 2004 11:52 am
Lleoliad: bangor

Postiogan sian » Sad 28 Awst 2004 3:24 pm

Gwen a ddywedodd:(i) Adra/sdalwm - woshing myshîn;
(ii) Yn Aberystwyth/rwan - peiriant golchi.

Dwi di codi yn y byd. :lol: (ac wedi gadael y Fro Gymraeg)


Rhyfedd fel mae rhywun yn dod i arfer â rhai geiriau 'newydd' ond dim rhai eraill. Swn i byth yn dweud 'awyren' na 'teledu' na 'hufen iâ' slawer dydd ond maen nhw'n swnio'n hollol naturiol erbyn hyn - ond mae 'oergell' a 'rhewgell' yn dal yn swnio'n ffals - fel 'mafon' Gwen.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan gronw » Sul 29 Awst 2004 12:18 pm

efo Fflat Smwddio ryden ni'n smwddio yn tŷ ni.

Lein Ddillad sy'n yr ardd, a Morwyn Ddillad o flaen tân.

Yn anffodus mae pethe'n dirywio wedyn: Mashîn Olchi, Tymbl Draiyr, Dishwoshyr a Meicrowêf.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 9 gwestai

cron