Dyma ddadl dwi clywed yn aml rhwng pobl o'r De ar Gogledd.
Ma Gogs yn dweud rhew am ice a frost.
Ma pobl o'r de yn deud ia am ice. Rhew i nhw yw frost ie?
dwim yn siwr os dwi'n gywir fan hyn.
Eniwe, ma ffrind i mi sydd yn gweithio tu ol i'r bar yn clwb wastad yn dweud wrth y Gogs mae ia ma nhw ishe yn ei diod, nid rhew. Mae rhai Gogs yn edrych arno yn syn a methu deal be mae o'n feddwl.
Dwi'n dweud rhew.
Lle da chi'n sefyll ar hwn?