Tudalen 1 o 3

Pa air ydych yn defnyddio am ddadas?

PostioPostiwyd: Sul 29 Awst 2004 12:52 pm
gan Lowri Fflur
Mae yna lwyth o eiriau gwahanol am y pethau melus blasus yma da chi'n rhoi yn ych ceg. Dada dwi'n defnyddio ers bod fi'n fach ond dwi'n defnyddio danteithion weithiau ers clywed ffrind yn coleg yn defnyddio y gair yma achos nath o daro fi pa mor neis mae'r gair yn swnio.

Beth mae pawb arall yn defnyddio a ble mae nhw'n dod?

PostioPostiwyd: Sul 29 Awst 2004 4:24 pm
gan Hogyn o Rachub
'Da das' neu llawer o'r amser 'peth da' fydda i'n eu galw nhw. Gas gen i pobl yn eu galw'n 'sweets'.

PostioPostiwyd: Sul 29 Awst 2004 4:37 pm
gan Hedd Gwynfor
losin

PostioPostiwyd: Sul 29 Awst 2004 5:13 pm
gan Ramirez
minciag.

nage.

fferins.

PostioPostiwyd: Sul 29 Awst 2004 6:46 pm
gan Daffyd
Wast o bres.

Na joc, fferins.

PostioPostiwyd: Sul 29 Awst 2004 9:03 pm
gan bartiddu
Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du,
Yn rhifo deg am ddimai
Ond unarddeg i mi.
O dyna'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi
O dyna'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi
Yn rhifo deg am ddimai
Ond unarddeg i mi.

Cytgan (answyddogol!)
Ffw la la
Ffw la la
Ffw la la la ffwrch a ffa! :winc:

PostioPostiwyd: Sul 29 Awst 2004 10:29 pm
gan Rhodri Nwdls
da-da

minciad

PostioPostiwyd: Llun 30 Awst 2004 8:08 am
gan sian
'Swîts' ym Mhencader, "Fferis' yn Nhrefor.
Chlywais i erioed air arall ym Mhencader - ddim hyd yn oed gan hen bobl - na gan Mam-gu yn ardal Cei Newydd chwaith - mae'n siwr fod yno air Cymraeg rhyw dro - rhywun yn gwybod?

PostioPostiwyd: Llun 30 Awst 2004 11:49 am
gan bartiddu
Neb wedi crybwyll Melysion eto?

Odi Fferins yn tarddu o'r Ffairiau 's lawer dydd? :)

Yr hen foi newy' crybwyll mai Cisus oedd e'n 'weud pan yn fychan, "dere cisun i fi", heb clywed y gair 'na amdanynt or blaen!

PostioPostiwyd: Llun 30 Awst 2004 12:20 pm
gan Treforian
Fferis.
Oherwydd eu tebygrwydd anesboniadwy i aelodau'r tylwyth teg am wen i. :rolio: