Pa air ydych yn defnyddio am ddadas?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Llun 30 Awst 2004 1:13 pm

treforian a ddywedodd:Fferis.
Oherwydd eu tebygrwydd anesboniadwy i aelodau'r tylwyth teg am wen i.


Ti'n dangos dy anwybodaeth nawr, 'ngwash i - Bartiddu sy'n iawn.

bartiddu a ddywedodd:Odi Fferins yn tarddu o'r Ffairiau 's lawer dydd? :)



Presant o'r ffair oedd 'fairing' neu 'fferins' slawer dydd.

Mae rhai pobl ffordd hyn yn galw pethau fel 'fruit pastilles' yn 'jiw jiws'. Maen nhw hefyd yn galw switsen neu fferan yn 'joe' - "Tisho joe?"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Lowri Fflur » Llun 30 Awst 2004 1:37 pm

Óes rhiwyn yn defnyddio "trops"? Darllenais yn y llyfr "Cymraeg, Cymrag, Cymreg" bod dim ond mewn dau bentref defnyddir y gair yma sef dau bentref yn y De Orllewin- Cynnwyl Elfed a Brechfa. Ysgrifennwyd y llyfr yma yn 1989 felly efallau yn drist iawn bod y gair bach yma bellach wedi marw. Felly neith riwyn plis ddweud wrthaf bod nhw'n defnyddio y gair yma?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Lowri Fflur » Llun 30 Awst 2004 1:40 pm

bartiddu a ddywedodd:Neb wedi crybwyll Melysion eto?


Melysion sydd yn y geiriadur ond dwi ddim yn meddwl bod o'n air rhanbarthol yn nunlla felly sw ni ddim yn meddwl bod llawer o neb yn ei ddefnyddio.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Treforian » Llun 30 Awst 2004 2:39 pm

sian a ddywedodd:Maen nhw hefyd yn galw switsen neu fferan yn 'joe' - "Tisho joe?"
Y?
Ydyn nhw??
Treforian
 

Postiogan Blewgast » Llun 30 Awst 2004 5:56 pm

Losin dwi'n gweud fel rheol....er dwi'n gweud Swits weithie :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan huwwaters » Llun 30 Awst 2004 9:21 pm

Fferinds. Mmmm.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Cawslyd » Llun 30 Awst 2004 10:55 pm

lowri larsen a ddywedodd:
bartiddu a ddywedodd:Neb wedi crybwyll Melysion eto?


Melysion sydd yn y geiriadur ond dwi ddim yn meddwl bod o'n air rhanbarthol yn nunlla felly sw ni ddim yn meddwl bod llawer o neb yn ei ddefnyddio.


Anghywir. Wel, rhannol gywir.
Dwi'n defnyddio Melysion i ddeud y gwir (neu Da-das) - ond yr un cynta fel arfer. Ond tydi Melysion ddim yn air ma neb arall yn ddefnyddio'n Port (dim i fi wybod). :?:
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 31 Awst 2004 8:16 am

Losin, dife! :winc:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Jeni Wine » Maw 31 Awst 2004 8:42 am

Di clwad rywun yn deud 'joi' am dda-da. Hen bobol os dwi'n cofio'n iawn. "Gymri di joi, ngwash i?"

Ond da-da fydda i'n ddeud. Dim o'ch 'fferen' a'ch 'loshinen' chi yn fama dalltwch.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Geraint » Maw 31 Awst 2004 9:29 am

swîts dwi'n dweud. :wps:

Mae da-da yn swnio fel iath babi! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai

cron