Na ti lwyth o gach. Hoffi dwi'n gweud, achos dyna'r blydi gair Cymrâg. Ond 'lyco' sy rownd fy rhan i o gylch Aberystwyth. Fel odd Hedd yn gweud ma 'dwli' yn hollol wahanol. Ta beth, tra bo well da fi hoffi na lyco, un peth nai'm goddef yw 'lyfo', sy bron cyn waethed a 'hêto' (neu hate-io). Argh! Casau, neu os rhywun wedi clywed am y gair 'harin' = casau. Fi a teulu mam yn gweud e (Dole, ger Bow street) neb arall dwi di cwrdd yn gwbod amdano fe so co chi: harin.