Mi atebais i'r ffôn yn gwaith gyna i ryw ddynas yn gofyn mewn acen Saesneg a goruwch Seisnig a oedd modd siarad â Rainolt. Doeddwn i'm yn dalld i ddechrau a meddwn, "Ai'm sori - hw dw iw wont?" a hitha'n ateb yn uwchgoruwch Seisnig a braidd yn flin tro ma "RAINOLT!". "No - isn't hiyr ai'm affrêd" medda finna - ddim yn gwbod ai dyn ai dynas ydi Rainolt. Ar ôl dalld, cyfeirio at Rheinallt, boi sy'n rhannu swyddfa â mi oedd hi.
Ydych chi wedi clywed enwau Cymraeg da yn cael eu malu y ffordd hon o'r blaen? Sgenoch chi unrhyw glasuron?