Wel dwin cal y ngalw yn Maenyn May (manon mai), a mrowd yn Haidy Rais (Hedd Rhys??!!), a tos nam posib sgwennu syt ma nhw'n deud Esyllt!
A dyma chi engrhaifft o ddiogi Sais ("hiliol"- dudwch be liciwch chi- dwi di blino ar boeni am y peth!), ma Abersoch fel ma pawb yn gwbod yn cal i ynganu fel Abysoc, ond erbyn hyn (yn eu "cymdeithas fach glos saesnig" yng nghefn gwlad Pen-Llyn) ma'r oeniaid llwath wedi cymryd arnyn nhw 'u hunan i alw pentre i fyny'r lôn o Abersoch, sef Mynytho yn Upper Abysoc!!! Tosnam byd yn "Upper" ym Mhen-Llyn! Yr unig beth "upperty" os liciwch chi yn yr ardal ydy'r mewnfudwyr di-glem o ochr arall i Glawdd Offa!