Ray Diota a ddywedodd:Cac yw'r peth Post Brenhinol. Ma'r rhan fwyaf yn dod lan yn union 'r un peth, gyda phethe amlwg (ABERTAWE, CASNEWYDD...) wedi'u newid yn unig
Efallai nad yw e'n berffaith ond mae yn rhoi syniad i ti o pa strydoedd sydd ag enwau Cymraeg swyddogol - sy'n help mawr os wyt ti eisiau i dy lythyron di gyrraedd pen eu taith! Cyn cael hwn, ro'n i'n arfer ffonio'r swyddfa ddidoli post leol i gael gwybod enwau Cymraeg strydoedd - ac roedd rheiny ddim yn gwybod gan amlaf.
Mae'n help i sicrhau cysondeb - neu fe allet ti gael pobl yn rhoi Heol Ioan, Heol John, Stryd Ioan etc etc am yr un lle - neu'n cyfieithu'n llythrennol e.e. mae "Lôn Dywod" a "Sand Street" ym Mhwllheli ond nid yr un lle ydyn nhw.