Bobol, mi ydw i yn flin. Blin iawn. Taswn i ddim yn flin iawn mi fyswn i yn defnyddio gwenoglun aballu, ond gan mod i'n eithriadol o flin mi o'n i'n meddwl y byswn i'n deud wrthach chi mewn geiria.
Fy nghas air i ydi "ydy". Ma hi'n gwbwl annaturiol a niwsans a Threforianwylltiannol i sgwennu "ydy" achos ei fod o'n swnio'n rong ac yn hollol wallgo.
A gyda llaw, mi ydw i'n gwbod mai wedi tarddu o "ydyw" y mae "ydi", ond os felly mae'n rhaid i ni sillafu "dweud" fel "dweyd" achos mai o "dywedyd" mae o wei tarddu. Ac ydi, ma hynny yn gwbwl wallgo!
Felly, mae na ymgyrch genedlaethol ar y gweill i ddarn-ladd y gair afiach hwn.