Faint o ferched sydd 'na ar maes-e ?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dwlwen » Maw 11 Ion 2005 9:46 am

Geraint a ddywedodd:...Dan Jerina falle?


Ai dyna'r female alias orau o't ti'n gallu dod lan â Geraint...ina :? :rolio:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan sian » Maw 11 Ion 2005 10:26 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:O'r pumdeg aelod sydd efo'r mwya o bostiau, dim ond saith o ferched sydd!


Mae hynna'n cymryd yn ganiataol ein bod ni'n gwybod pwy yw Dan Jerus, Ger, a fel wyt ti a fi'n gwybod, does NEB yn gwybod pwy yw hynna... :winc:


Mae hynna'n eitha difyr - mae rhywun, yn isymwybodol, yn ymateb yn wahanol i ferch nag yw i ddyn. Rwy wedi cymryd ar hyd yr amser bod un o aelodau amlycaf y maes yn ferch ond nawr rwy wedi cael rhyw awgrym mai dyn yw e - mae'n deimlad eitha anghynnes!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Geraint » Maw 11 Ion 2005 10:26 am

Dwlwen a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:...Dan Jerina falle?


Ai dyna'r female alias orau o't ti'n gallu dod lan â Geraint...ina :? :rolio:


Danjerine? Dan Jerwlwen?

:wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan krustysnaks » Maw 11 Ion 2005 10:43 am

sian a ddywedodd:Mae hynna'n eitha difyr - mae rhywun, yn isymwybodol, yn ymateb yn wahanol i ferch nag yw i ddyn. Rwy wedi cymryd ar hyd yr amser bod un o aelodau amlycaf y maes yn ferch ond nawr rwy wedi cael rhyw awgrym mai dyn yw e - mae'n deimlad eitha anghynnes!


Nath yr un peth ddigwydd i fi pan nes i gwrdd â nicdafis am y tro cyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Mali » Maw 11 Ion 2005 7:41 pm

sian a ddywedodd:
Mae hynna'n eitha difyr - mae rhywun, yn isymwybodol, yn ymateb yn wahanol i ferch nag yw i ddyn. Rwy wedi cymryd ar hyd yr amser bod un o aelodau amlycaf y maes yn ferch ond nawr rwy wedi cael rhyw awgrym mai dyn yw e - mae'n deimlad eitha anghynnes!



Dwi'n gwybod be ti'n feddwl yn iawn Sian. Mae hyn wedi digwydd ddwy waith i mi ar maes-e , a mae o'n deimlad anghynnes .....am y tro.
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Maw 11 Ion 2005 7:45 pm

Gret o lun Leusa ! :lol:
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Maw 11 Ion 2005 7:48 pm

dwi efo cyhuddiad i neud.......



























Mae Daffyd yn ddynas
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Ramirez » Maw 11 Ion 2005 8:36 pm

Rhy Ddiog... a ddywedodd:dwi efo cyhuddiad i neud...


ti'n cyhuddo rhywun o fod yn ddynes :lol: ?!
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan nicdafis » Maw 11 Ion 2005 10:58 pm

Mali a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Mae hynna'n eitha difyr - mae rhywun, yn isymwybodol, yn ymateb yn wahanol i ferch nag yw i ddyn. Rwy wedi cymryd ar hyd yr amser bod un o aelodau amlycaf y maes yn ferch ond nawr rwy wedi cael rhyw awgrym mai dyn yw e - mae'n deimlad eitha anghynnes!


Ond mae hyn yn wir ar y rhyngrwyd yn gyffredinol, dyw e ddim byd i wneud ar y maes yn benodol.

Yn bersonnol, dw i'n anghyfforddus iawn gyda'r awyrgylch llawn testosterone sy'n weithiau yn llygru'r maes, ond dw i'n teimlo yr un ffordd am wefannau fel fark.com, lle mae bod yn ynfytyn <i>macho</i> yn fodd i ennill parch gan eich cyd-fynciod. Mae'n blentynaidd, ond beth allwn ni wneud amdano fe? Gwahardd pobl plentynaidd?

Fel dwedodd rhywun uchod, mae'n rhyfedd bod hyd yn oed edefyn am faint o ferched sy ar y maes yn troi yn boyzone mor glou.

Un opsiwn, os oes digon o ferched â diddordeb, byddai neilltuo adran i ferched y maes, lle allwch chi siarad heb boeni am ryw fachgen torri ar eich traws byth ac hefyd.

Dim ond syniad.

Mae hyn yn rhywbeth dw i â gwir diddordeb mewn trafod. Dw i'n credu taw dan y jôcs a'r pethau ysgafnach yma mae sefyllfa a all fynd yn broblem os dydy e ddim yn cael ei drafod.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Maw 11 Ion 2005 11:20 pm

Nicdafis a ddywedodd:Dw i'n credu taw dan y jôcs a'r pethau ysgafnach yma mae sefyllfa a all fynd yn broblem os dydy e ddim yn cael ei drafod.


Dwi'n credu falle dy fod ti'n cymryd y sefyllfa ychydig ormod o ddifrif Nic. Mae nifer o'r jocs rhywiaethol yn yr edefyn yma'n joc ehangach ar y ffaith fod y Maes yn ymddangos llawn malu awyr 'macho'.

Ond tydi o'm yn syndod bod mwy o ddynion yn cyfrannu i'r maes nag merched - mae hynny'n wir am y rhyngrwyd cyfan. Ac dydi ymddwyn yn blentynaidd ar y we ddim yn codi'n uniongyrchol o geisio gwneud argraff ar 'y bois', chwaith. Dwi'n nabod lot o ddynion plentynaidd, a lot o ferched plentynaidd. Mae'n ymddangos bod mwy o ddynion plentynaidd am fod mwy o ddynion yn defnyddio'r maes.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron