Seiat newydd - Gwyddoniaeth

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Mer 19 Ion 2005 12:49 pm

Macsen a ddywedodd:Dw i wedi bod yn defnyddio'r seiad amgylchedd fel seiad gwyddoniaeth.


Rhag dy gywilydd di. ai ti sydd wedi bdo yn defnyddio seiat Driw Duw fel seiat Athroniaeth hefyd?

Amser casglu ynghyd Llys Cangarw Arbennig Maes-e dwi'n meddwl :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Mer 19 Ion 2005 12:57 pm

A dwyt ti ddim eisiau gwybod i beth dw i wedi bod yn defnyddio'r seiad Cell Cymysg Diwyllianol. :ofn:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan huwwaters » Mer 19 Ion 2005 5:26 pm

Syniad da, fel y gwelaf i. Y medrith y teitl cael ei addasu i gynnwys pethau mecanyddol? e.e. Airbus Newydd neu Ferrari Enzo
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Ti 'di beni? » Mer 19 Ion 2005 5:38 pm

Gwd point. Ond o'n i wedi meddwl yn wreiddiol am seiat i drafod datblygiadau gwyddonol yn hytrach na rhai peirianyddol. Oes lle i ddau?

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Postiogan dafydd » Iau 20 Ion 2005 12:34 am

Ti 'di beni? a ddywedodd:Gwd point. Ond o'n i wedi meddwl yn wreiddiol am seiat i drafod datblygiadau gwyddonol yn hytrach na rhai peirianyddol. Oes lle i ddau?

Wel fase adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gallu cwmpasu:

* Gwyddoniaeth - theori, dysg ac arbrofi.. syniadau nid dyfeisiau
* Technoleg - y cymhwysiad cyffredinol o wyddoniaeth mewn cymdeithas, sy'n cynnwys peirianyddiaeth, ond nid malu awyr am geir :P
* Cyfrifiaduron/ Y We - y defnydd amlycaf o dechnoleg yn y ganrif yma
* Gemau cyfrifiaduron - y defnydd mwy gwastraffol o gyfrifiaduron .. jôc! :)
* Amgylchedd a Chynaliadwyaeth - yr ymgais i gyfyngu neu ddad-wneud yr holl ddrwg y gall technoleg ei greu :)

Dwi ddim yn siwr faint o ddefnydd fase ar seiat Gwyddoniaeth bur, ond falle fyddai'n well i'w gadw ar wahan.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan nicdafis » Iau 20 Ion 2005 8:35 am

Diolch am hyn Dafydd. Dw i'n meddwl falle bod yr amser wedi dod i'r seiat "Ar Goll ar y We" ymddeol - cyn i rywun bostio dawns y hamsteriaid yno - wna i edrych ar yr holl syniadau yma fory.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Ti 'di beni? » Iau 20 Ion 2005 9:32 am

Diolch Dafydd am roi cig ar yr esgyrn.

Cytuno efo'r bit am geir. :winc:

Hwyl,

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Postiogan huwwaters » Iau 20 Ion 2005 5:34 pm

Ydwi'n cael y sack? :crio: Neu, a oes na rw enhancement yn famma?

Dafydd a ddywedodd:ond nid malu awyr am geir :P .


Doeddwn i'm yn golygu hwn, meddwl mwy fel, sut mae'r turbochrger ar y Bugatti Veyron newydd yn gweithio, neu a fydd y bont newydd na'n resonatio os aiff lori fawr drosto.

Syniad am enw fyse, "Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg" .

Hwyl
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan nicdafis » Mer 26 Ion 2005 7:43 pm

Jyst i roi gwybod, dw i'n meddwl wnawn ni aros am sbel bach cyn newid pethau, gan fod <a href="http://www.phpbb.com/phpBB/viewtopic.php?f=14&t=256072">Olympus</a> i fod gyda ni mewn mis neu dda, a bydd hynny yn gadael i ni gael is-seiadau (ac is-is-seiadau, os oes angen).

Dw i'n ymwybodol bod y dudalen flaen yn rhy fishi fel y mae, felly dw i ddim am newid gormod ar hyn o bryd. Bydd rhaid i ni ail-drefnu popeth yn y gwanwyn ta beth.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Barbarella » Mer 26 Ion 2005 9:25 pm

nicdafis a ddywedodd:gan fod <a href="http://www.phpbb.com/phpBB/viewtopic.php?f=14&t=256072">Olympus</a> i fod gyda ni mewn mis neu dda

Cofia bod y fersiwn "newydd" yma wedi bod mis neu ddau i ffwrdd ers tua dwy flynedd nawr. Fydden i ddim yn dal dy wynt...
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron