Dw i wedi bod yn aros am phpBB 2.2 bron ers i ni ddechrau maes-e, a nawr maen nhw <a href="http://www.phpbb.com/phpBB/viewtopic.php?f=14&t=256072">wedi datgan</a> bydd y fersiwn newydd yn 3.0, neu "Olympus" (negesfwrdd y duwiau?), gan ei fod yn anifail cwpl wahanol i phpBB 2.x.
Dysgwyl ymlaen at ddiwedd Chwefror/dechrau Mawrth i ni gael chwarae â hyn. Mae'n debyg y bydd gwaith cyfieithu i'w wneud; falle byddai'n syniad i ni fod yn fwy trefnus am hyn - yn sicr bydd yn gyfle i ni sorto mas geirfa y negesfwrdd unwaith ac am byth. A fydd "edefyn" a "gwenogluniau" yn goroesi?