phpBB 3.0 ar ei ffordd

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

phpBB 3.0 ar ei ffordd

Postiogan nicdafis » Mer 19 Ion 2005 10:47 am

Dw i wedi bod yn aros am phpBB 2.2 bron ers i ni ddechrau maes-e, a nawr maen nhw <a href="http://www.phpbb.com/phpBB/viewtopic.php?f=14&t=256072">wedi datgan</a> bydd y fersiwn newydd yn 3.0, neu "Olympus" (negesfwrdd y duwiau?), gan ei fod yn anifail cwpl wahanol i phpBB 2.x.

Dysgwyl ymlaen at ddiwedd Chwefror/dechrau Mawrth i ni gael chwarae â hyn. Mae'n debyg y bydd gwaith cyfieithu i'w wneud; falle byddai'n syniad i ni fod yn fwy trefnus am hyn - yn sicr bydd yn gyfle i ni sorto mas geirfa y negesfwrdd unwaith ac am byth. A fydd "edefyn" a "gwenogluniau" yn goroesi? :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mwnci Banana Brown » Iau 03 Maw 2005 12:13 pm

Unrhyw newyddion am pryd ma hwn yn cal i rhyddhau de?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan Al » Iau 03 Maw 2005 4:32 pm

wel cafodd fersiwn 2.0.12 ei rhyddau mond rhyw chydig yn ol ac wedyn 2.0.13 rhyw 3 dydd wedyn(wbath yn anghywir yn 2.0.12 masiwr) fellu man mynd yn agosach iddo.
Al
 

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 03 Maw 2005 4:38 pm

Ydi hi'n werth i fi aros amdano fo cyn cychwyn fforwm fach ta? Neu ddylswn i jest mynd am y fersiwn gyfieithedig bresennol?

Pa mor hawdd da chi'n rhagweld fydd hi i drawsblannu cofnodion?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Barbarella » Iau 03 Maw 2005 5:22 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ydi hi'n werth i fi aros amdano fo cyn cychwyn fforwm fach ta?

God, na, yn sicr ddim. Mae'r fersiwn newydd yma wedi bod "yn agos iawn" ers blwyddyn o hanner o leia, dwi'n siwr. Nathon nhw hyd yn oed newid y rhif o 2.1 i 3 er ymddangos fel petai pethau'n digwydd. Dwi'n siwr bydd e'n dda pan ddaw e allan, ond mae agwedd datblygwyr phpBB yn rhyfedd iawn. Mae nhw'n gwrthod pob cynnig i helpu gan eraill, ac wedyn yn mynd yn flin pan mae pobl yn cwyno bod pethau'n hir yn cyrraedd.

Al a ddywedodd:wel cafodd fersiwn 2.0.12 ei rhyddau mond rhyw chydig yn ol ac wedyn 2.0.13 rhyw 3 dydd wedyn(wbath yn anghywir yn 2.0.12 masiwr) fellu man mynd yn agosach iddo.

Dyw'r datblygiadau 2.0 ddim byd i wneud efo 3.0 erbyn hyn -- mae nhw'n digwydd ar wahân, ac ar gyfer trwsio chwilod neu phroblemau diogelwch yn unig.

Dwi'n awgrymu i bawb ddefnyddio 2.0.13. Mae 3.0 ymhell o fod yn orffenedig, ac hyd yn oed wedyn, mae'n well ymddiried mewn côd sydd wedi cael 13 patsh diogelwch na chôd sydd heb gael yr un. Arhoswch am 3.0.1 o leiaf.

Bydd 3.0 yn cynnwys pethau i symud yn hawdd o fersiwn 2, felly fyddwch chi ddim ar eich colled.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Wierdo » Sul 06 Maw 2005 10:10 pm

nicdafis a ddywedodd:A fydd "edefyn" a "gwenogluniau" yn goroesi? :crechwen:

yn sicr yn fy marn i, dwi di arfar fo nw rwan! Er, dwi newydd sylweddoli mod i wedi bod yn deud "gwenogluniau" fel "gwengoluniau" hmmm
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Al » Iau 12 Mai 2005 1:39 pm

http://www.phpbb.com/phpBB/viewtopic.php?f=14&t=274012

a fydd y pecyn cymraeg yn cael ei adnewyddu i olympus?
Al
 

Postiogan Barbarella » Iau 12 Mai 2005 3:41 pm

Al a ddywedodd:a fydd y pecyn cymraeg yn cael ei adnewyddu i olympus?


Os yw'r iaith Gymraeg yn dal i fodoli erbyn rhyddhau Olympus, bydd, mi fydd na becyn Cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Cawslyd » Iau 12 Mai 2005 3:50 pm

Wierdo a ddywedodd:Er, dwi newydd sylweddoli mod i wedi bod yn deud "gwenogluniau" fel "gwengoluniau" hmmm

O finna fyd. Do'n i heb ffigro allan mae lluniau oedd yn gwenu oedd o'n feddwl. Ond fe wydda'i nawr.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan nicdafis » Iau 12 Mai 2005 9:43 pm

Barbarella a ddywedodd:Os yw'r iaith Gymraeg yn dal i fodoli erbyn rhyddhau Olympus, bydd, mi fydd na becyn Cymraeg.


Drueni does neb wedi meddwl mynd i'r carchar dros dyfodol phpBB.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron