Wedi cyfuno'r seiadau teledu a ffilmiau, a'r un "Help" a "chroeso i'r Maes", ac wedi cael gwaraed â'r categori "Ynglyn â'r Maes". Hefyd, dw i wedi gosod "autopruning" ar y seiat "Digwyddiadau" - bydd unrhyw ddatganiad 'na sy heb ei drafod ers mis yn diflannu'n awtomatig - i arbed gwaith ar fy rhan i yw e - er mwyn cadw pethau yn glir yn y seiat 'na dw i wedi bod yn deleto pethau 'na unwaith mae'r digwyddiad wedi digwydd. Felly, paid â phosto rhywbeth yn rhy bell ymlaen llaw, neu gofio i ychwanegu manylion bob hyn a hyn, i gadw dy bwnc yn fyw