Mr Gasyth a ddywedodd:Cytno garn, tydi'r system ddim yn hollol deg a dwi'n amau fod rhai pobl yn ei gamddefnyddio. Ond lle mae Realydd yn y cwestiwn dwi wedi rhoi sawl croes coch iddo allai ddeud efo llaw ar fy nghalon fod pob un wedi bod am neges anadeiladol yn hytrach na jest am fy mod yn anghytno a fo.
Ar ran diddordeb (gan weld dy gyfraniad di'n hollol deg) - wyt ti wedi rhoi unrhyw wyrdd iddo am y cyfraniadau lle mae o'n ychwanegu at ddadl (waeth mor wrthun?).
Dyna un o'r pethe dw i'n ymwybodol ohono fo wrth rhoi carma i bobl - digon hawdd (yn y mwyafrif o achosion) ydy cael hyd o negeseuon gwael, ond os ydy'r pobl yna hefyd yn cyfrannu'n adeiladol weithie, dw i'n teimlo y dylid rhoi o leia rhywfaint i'w cyfraniadau gwell.
Fel arall, mae'n mynd yn hawdd iawn (wrth ddefnyddio'r sustem fel y bwriadwyd) i fagu patrwm o farnu negeseuon da y pobl bod rhywun yn eu parchu, a'r negeseuon gwael y pobl bod rhywun ddim...
Erbyn hyn, bydda i'n tueddu i farnu dim ond os ydw i'n anghytuno yn gyffredinol efo lefel carma rhywun - wedi bod yn hoff o
'lost causes' erioed...