Ydi lefelau carma yn rhoi esgus i farnu?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi lefel carma yn achosi i bobl cael eu barnu ar y maes?

ydi
17
63%
nac ydi
10
37%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 27

Ydi lefelau carma yn rhoi esgus i farnu?

Postiogan GTI » Sul 24 Ebr 2005 6:41 pm

Credaf fod y lefelau carma yma wedi achosi i lawer o farnu ddigwydd.
Ers i lefelau carma gael eu dangos rwy'n teimlo fy mod i'n cael fy marnu fwy a fod pobl yn edrych lawr arna i. Hefyd ers y carma ddod yn gyhoeddus mae nifer y negeseuon preifat rydw i wedi'w dderbyn wedi disgyn yn sylweddol.
Oes rhywun arall wedi cael hyn?


Sut ydw i'n cael lefel carma fi i godi. Rydw i wedi darllan y cyfarwyddiadau ond yn lle codi mae'r lefel yn disgyn yn lle codi!?
Rhithffurf defnyddiwr
GTI
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 180
Ymunwyd: Iau 21 Hyd 2004 5:04 pm
Lleoliad: Ar Bererindod

Postiogan garynysmon » Sul 24 Ebr 2005 6:47 pm

Mae rhai pethau yn anheg, mae rhaid i mi gyfaddef. Dwi'n edrych ar lefelau aelodau fel Cath Ddu a Realydd er enghraifft a meddwl ei fod wael. Does run o'r ddau yn mwydro'n llwyr a difetha edefynnau, ond eto gyda charma gwarthus. Mae na wahaniaeth rhwng rywyn yn dweud rhywbeth sy'n hollol groes i'ch gwleidyddiaeth chi, i rywyn sy'n dweud rhywbeth ni all edeiladu arno a/neu sy'n chwalu sgwrs yn llwyr. Dwi'n synnu fod un i cystal, i ddweud y gwir.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Mr Gasyth » Sul 24 Ebr 2005 6:57 pm

Cytno garn, tydi'r system ddim yn hollol deg a dwi'n amau fod rhai pobl yn ei gamddefnyddio. Ond lle mae Realydd yn y cwestiwn dwi wedi rhoi sawl croes coch iddo allai ddeud efo llaw ar fy nghalon fod pob un wedi bod am neges anadeiladol yn hytrach na jest am fy mod yn anghytno a fo.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan krustysnaks » Sul 24 Ebr 2005 7:22 pm

Mae'n system od. Un diwrnod ma'ch carma chi'n mynd i fyny, y diwrnod nesaf, ar ôl postio negeseuon yr un mor ddifyr neu dwl, ma'ch carma chi ar i lawr. Wedi dweud hynny, dwi'n defnyddio mwy ar y system erbyn hyn - efallai fod pobl yn fwy ymwybodol os ydy'u carma nhw'n gostwng / codi.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan nicdafis » Sul 24 Ebr 2005 7:29 pm

Dw i'n derbyn nad yw'r sustem carma yn hollol deg, ond yn y byd sydd ohonom dyma'r unig ffordd dyn ni'n gallu rhedeg y safle, a chadw rhyw fath o safon trafod. Mae modd i ni wybod os ydy pobl yn camddefnyddio'r sustem.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aran » Llun 25 Ebr 2005 10:30 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Cytno garn, tydi'r system ddim yn hollol deg a dwi'n amau fod rhai pobl yn ei gamddefnyddio. Ond lle mae Realydd yn y cwestiwn dwi wedi rhoi sawl croes coch iddo allai ddeud efo llaw ar fy nghalon fod pob un wedi bod am neges anadeiladol yn hytrach na jest am fy mod yn anghytno a fo.


Ar ran diddordeb (gan weld dy gyfraniad di'n hollol deg) - wyt ti wedi rhoi unrhyw wyrdd iddo am y cyfraniadau lle mae o'n ychwanegu at ddadl (waeth mor wrthun?).

Dyna un o'r pethe dw i'n ymwybodol ohono fo wrth rhoi carma i bobl - digon hawdd (yn y mwyafrif o achosion) ydy cael hyd o negeseuon gwael, ond os ydy'r pobl yna hefyd yn cyfrannu'n adeiladol weithie, dw i'n teimlo y dylid rhoi o leia rhywfaint i'w cyfraniadau gwell.

Fel arall, mae'n mynd yn hawdd iawn (wrth ddefnyddio'r sustem fel y bwriadwyd) i fagu patrwm o farnu negeseuon da y pobl bod rhywun yn eu parchu, a'r negeseuon gwael y pobl bod rhywun ddim...

Erbyn hyn, bydda i'n tueddu i farnu dim ond os ydw i'n anghytuno yn gyffredinol efo lefel carma rhywun - wedi bod yn hoff o 'lost causes' erioed... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Mr Gasyth » Llun 25 Ebr 2005 11:18 am

Aran a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Cytno garn, tydi'r system ddim yn hollol deg a dwi'n amau fod rhai pobl yn ei gamddefnyddio. Ond lle mae Realydd yn y cwestiwn dwi wedi rhoi sawl croes coch iddo allai ddeud efo llaw ar fy nghalon fod pob un wedi bod am neges anadeiladol yn hytrach na jest am fy mod yn anghytno a fo.


Ar ran diddordeb (gan weld dy gyfraniad di'n hollol deg) - wyt ti wedi rhoi unrhyw wyrdd iddo am y cyfraniadau lle mae o'n ychwanegu at ddadl (waeth mor wrthun?).


do, dwi wedi rhoi ambell i wyrdd iddo hefyd, er yn anffodus tydi'r cyfle ddim yn codi'n aml. dwi'n cofio rhoi tic am y stori hilariws amdano yn rygbi taclo sais yn y coleg oedd wedi bod yn pigoi arno!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Llun 25 Ebr 2005 3:17 pm

Dydi o ddim yn gweithio i bawb, felly - on i'n meddwl mai bwriad y peth oedd gneud i bobl deimlo'n well am eu hunain, ond yn amlwg dydi o ddim. :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth


Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai