Hanes Maes e

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hanes Maes e

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 06 Mai 2005 9:23 am

Pryd Sefylwyd Maes e?
O ble ddaeth y syniad?
Pwy sy'n ei cyllido?
Lle gath o ei hysbysebu?
:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Al » Gwe 06 Mai 2005 9:40 am

Sefydlwyd 18 Awst 2002 gan Mr Nic Dafis

hyna yn un peth dwin gwybod
Al
 

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 06 Mai 2005 9:48 am

Al a ddywedodd:Sefydlwyd 18 Awst 2002 gan Mr Nic Dafis

hyna yn un peth dwin gwybod


hmm, wel mae hynnan esbonio pam ni welais y maes pan o ni'n myfyriwr; da iawn i Nic Dafis.

Ai maes-e a wefan golwg yw'r unrhyw fforwms cymraeg? 8)
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Mai 2005 10:48 am

Wele'r <a href="http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/jobbins.shtml">erthygl ar y maes</a> gan Siôn Jobbins ar wefan y BBC.

Mae sawl fforwm Cymraeg arall i gael.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 06 Mai 2005 12:57 pm

O, di maes e ddim yn cael arian gan ninlle fellu :P braf cael gweld cymhelliant ddi-cyfalafol am newid!

O ble ddaeth y syniad?

fuodd yna hysbysebu amdanno? (wnes i 'mond clywed amdanno tra o ni ar fforwm golwg.com - ond dwi allan ohonni fama braidd)

Mae'n dangos sut y bydd technoleg gwybodaeth yn rhoi cyfnerthu'r iaith ac yn help pobl gymraeg i cadw mewn cysylltiad - lle ella fel arall fyddent wedi colli ei cymreicdod.
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Al » Gwe 06 Mai 2005 1:52 pm

Dwin gwybod o 2 forwm cymraeg arall:

1.rygbicymru.com

2.dimcwsg.com
Al
 

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 06 Mai 2005 2:52 pm

Al a ddywedodd:Dwin gwybod o 2 forwm cymraeg arall:

1.rygbicymru.com

2.dimcwsg.com


O, yr un i rugbi'n edruch yn dda - mae nhw gyd hefo formatt debyg iawn does - di hyn yn cyd-ddigwyddiad neu oes na hafan yn cynnal nhw ac yn rhoi template tybed?

Roedd Wormella yn gofyn 'chydig ynol os oedd 'na hafan i bobl sy'n byw y tu allan i gymru ond doedd na ddim son am un gan neb. Mi fuasa hwn yn neis os oedd rywun am greu un newydd....neu un ffuglen gwyddonol ella? 8)
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan eifs » Gwe 06 Mai 2005 3:30 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:
Al a ddywedodd:Dwin gwybod o 2 forwm cymraeg arall:

1.rygbicymru.com

2.dimcwsg.com


O, yr un i rugbi'n edruch yn dda - mae nhw gyd hefo formatt debyg iawn does - di hyn yn cyd-ddigwyddiad neu oes na hafan yn cynnal nhw ac yn rhoi template tybed?

Roedd Wormella yn gofyn 'chydig ynol os oedd 'na hafan i bobl sy'n byw y tu allan i gymru ond doedd na ddim son am un gan neb. Mi fuasa hwn yn neis os oedd rywun am greu un newydd....neu un ffuglen gwyddonol ella? 8)


waw yndi hefyd, mae'r fforwm rygbi yn un da, rhaid ymuno!!
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Rhys » Gwe 06 Mai 2005 3:36 pm

Mae nhw i gyd yn defnyddio meddalwedd rhydd o'r enw phpBB. Mae'n hawdd iawn dechrau un dy hun hyd yn oed os nad oes dim profiod TG gyda ti. Dwi wedi dechrau un yn defnyddio http://www.yabbers.com sy'n 100% am ddim, ond mae hysbysebion google yn ymddangos ar y top. Galli di newid steil y negesfwrdd a iaith y rhyyngwyneb

Dyma un dwi wedi ei greu ar gyfer dysgwyr,
http://www.yabbers.com/phpbb/index.php? ... 0a011a45bb

a fel ti'n gweld dwi heb foddran prynnu enw parth (:wps: ) er mond tua £20 fyddai hynny.
Hefyd dwi wedi gadael y rhyngwyneb yn Saesneg gan mai at ddysgwyr o bob lefel mae o wedi ei anelu ato, ond unwaith mae rhywun yn ymaelodi gallant newid eu proffeil fel ei fod yn ymddangos yn Gymraeg.


Dwi'n siwr byddai rhai o maes-e yn hoffi un ffuglen wyddonol os ei di ati a dechrau un. Gelli di wasted ei hysbysebu ar maes-e a'r byrddau trafod eraill. :winc:

Mae yna 'Cylch y Ffasgwyr' ar maes-e ble mae pobl sy'n rhedeg negesfwrdd yn rhannu profiadau ac awgrymiadau. Digon o gymorth i ti.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Al » Gwe 06 Mai 2005 3:37 pm

aye, diolch am hyna y dda ohonoch. Erthygl diddorol nic, dilch am hyna, ond wedi sylwi fod ni rygbicymru.com dal heb cael ei sylwi fel wefan uniaith cymraeg. Er engrhaifft mae dimcwsg.com gyda llai o negeseuon a ni bellach a hyd yn oed prysurdeb ond eto mae nhw dal yn cael ei enwi mewn erthyglau. Dyna sydd yn siom i fi. Ond wrth gwrs mi wnai ni drio cael rygbicymru.com yn brysyrach fyth trwy'r amser fel mae nic wedi neud gyda'r maes.
Al
 

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron