Fflamio

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fflamio

Postiogan nicdafis » Llun 14 Hyd 2002 3:23 pm

Dw i wedi dileu neges gan gwestai di-enw yn yr <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=119&start=0&postdays=0&postorder=asc&highlight=">edefyn hwn</a> ac dw i wedi dileu ymateb Di-Angen i'r neges honno. Nid hwn yw'r lle i flame-wars plentynaidd. Os oes problem 'da unrhywun gyda hyn, wnewch chi drafod fan hyn, yn lle yn y seiat chwaraeon, plîs? Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Llun 14 Hyd 2002 3:35 pm

Sori, nid gwestai di-enw, ond gwestai o'r enw "hefin".
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Geraint » Llun 14 Hyd 2002 4:02 pm

Fi oedd y gwestai di-enw (nid hefin!), anghofio mewngofnodi, ie, cytuno, mae'n bosib trafod pethau yn gall heb colli eich pen, hyd yn oed tim pel-droed Lloegr! :winc:

Cytuno Nic bod rhaid cadw rhyw fath o drefn os yw pobl yn mynd i ymddwyn fel na, falle bod pawb ddim yn cytuno a sylwadau Di-Angen, ond mae gan pawb hawl i'w barn, os maent yn gallu eu trafod yn gall.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Di-Angen » Llun 14 Hyd 2002 4:21 pm

Yn bersonol, mae fflamio rhywbeth mor syml a dweud pob lwc i'r Alban a Lloegr mewn gem o beldroed yn dangos problem personoliaeth, casineb o wledydd tu allan i Gymru, neu, yn fwyaf tebygol, casineb ohona i yn bersonol.

Gobeithio, Nic, dy fod wedi nodi nad oeddwn i wedi ymateb i'r fflam gyda fflam arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Llun 14 Hyd 2002 4:35 pm

Beth o'n i wedi nodi oedd ti danglo abwyd blasus o flaen trwynau y defnyddwyr ac aros am rywun fynd amdano. Pan nad oedd neb wedi brathu cyn y gêm, ychwanegest mwydyn bach tew arall ("Roeddwn yn gweiddi fy lungs allan dros Loegr"). Eto, doedd neb gyda digon o ddiddordeb mewn helpu ti chwipio dy hoff geffyl marw, nes i'r gwestai bostio'r neges dw i wedi ei dileu (diwrnod ar ôl i ti bostio).

Wedyn, nodais i ti, <b>o fewn yr awr</b>, neidio i mewn gyda dy protestations of innocence abused arferol, a wnes i ddileu yr holl rwtsh cyn iddo fe fynd yn bellach. Beth o't ti'n wneud, eistedd 'na, gwasgu "reload" nes i rhywun frathu?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Di-Angen » Llun 14 Hyd 2002 6:17 pm

nicdafis a ddywedodd:Beth o'n i wedi nodi oedd ti danglo abwyd blasus o flaen trwynau y defnyddwyr ac aros am rywun fynd amdano. Pan nad oedd neb wedi brathu cyn y gêm, ychwanegest mwydyn bach tew arall ("Roeddwn yn gweiddi fy lungs allan dros Loegr"). Eto, doedd neb gyda digon o ddiddordeb mewn helpu ti chwipio dy hoff geffyl marw, nes i'r gwestai bostio'r neges dw i wedi ei dileu (diwrnod ar ôl i ti bostio).


Fe wnaeth Geraint (rwy'n credu) ateb yn ddigon call, a wnaethom ni drafod pa mor dda oedd Cymru i gymharu a Lloegr - yn bersonol, fe fydden ni'n dweud y byddai ni'n ennill efallai 3 gem allan o 10 yn eu herbyn.

Rwy wir yn gweld yn ddoniol/eithaf trist fod pawb yn meddwl fy mod, oherwydd fy mod ddim yn cydymffurfio gyda'r stereotype gwladgarol, iaith-obsessed Cymraeg, yn rhyw fath o troll. Mae dweud fy mod am weld Lloegr a'r Alban yn wneud yn dda yn yn bod yn abwyd?

nicdafis a ddywedodd:Wedyn, nodais i ti, <b>o fewn yr awr</b>, neidio i mewn gyda dy protestations of innocence abused arferol, a wnes i ddileu yr holl rwtsh cyn iddo fe fynd yn bellach. Beth o't ti'n wneud, eistedd 'na, gwasgu "reload" nes i rhywun frathu?


Nodais i hefyd dy fod wedi ateb yr original message yn y thread yma <b>o fewn 12 munud</b>, ac wedyn atebais ti fi <b>o fewn 14 munud</b>, tua awr yn hwyrach. Wyt ti yn aros yna yn gwasgu reload, felly? Neu a wyt yn cytuno fod hyn yn meddwl <b>dim byd o gwbl</b>? Mae digon o resymau dros fod o flaen cyfrifiadur bob dydd, a checkio nifer o negesfyrddau.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Llun 14 Hyd 2002 9:16 pm

Di-Angen a ddywedodd:Rwy wir yn gweld yn ddoniol/eithaf trist fod pawb yn meddwl fy mod, oherwydd fy mod ddim yn cydymffurfio gyda'r stereotype gwladgarol, iaith-obsessed Cymraeg, yn rhyw fath o troll. Mae dweud fy mod am weld Lloegr a'r Alban yn wneud yn dda yn yn bod yn abwyd?


Ydy, fel ti'n gwybod yn iawn. Beth fyddet ti'n disgwyl 'set ti'n mynd i fwrdd lle mae pawb yn byw yn Lerpwl a chanu clod Man U? Dw i'n falch bod Geraint wedi ymateb i'th neges yn bositif a gobeithio bydd y sgwrs 'na yn cario ymlaen - dyna pam dw i ddim wedi dileu'r holl peth, neu gloi'r edefyn.

nicdafis a ddywedodd:Wedyn, nodais i ti, <b>o fewn yr awr</b>, neidio i mewn gyda dy protestations of innocence abused arferol, a wnes i ddileu yr holl rwtsh cyn iddo fe fynd yn bellach. Beth o't ti'n wneud, eistedd 'na, gwasgu "reload" nes i rhywun frathu?


Di-Angen a ddywedodd:Nodais i hefyd dy fod wedi ateb yr original message yn y thread yma <b>o fewn 12 munud</b>, ac wedyn atebais ti fi <b>o fewn 14 munud</b>, tua awr yn hwyrach. Wyt ti yn aros yna yn gwasgu reload, felly? Neu a wyt yn cytuno fod hyn yn meddwl <b>dim byd o gwbl</b>? Mae digon o resymau dros fod o flaen cyfrifiadur bob dydd, a checkio nifer o negesfyrddau.


Chwarae teg, ti'n iawn. Ro'n i'n fishi, a trial wneud gormod o bethau'r un pryd. Mae bywyd 'da fi i ffwrdd o'r sgrin bach anobeithiol yma, creda neu beidio.

Wnei di nodi, gyda'r llaw, dw i ddim wedi dy alw yn "troll". Dw i'n derbyn y ffaith dy fod di'n credu yn gryf yn y holl stwff wrth-Seisnig wyt ti'n gweld ym mhobman. Dydy troll go iawn ddim yn credu mewn unrhywbeth ond gwylltio pobl. Ond rhaid rhaid RHAID dy fod di'n gwybod pa fath o ymateb y cei di ar fwrdd Cymraeg ei iaith os wyt ti'n dweud pethau fel "gweiddi fy lungs allan dros Loegr". Y ffaith dy fod di'n esgus bod yn siomedeg bob tro mae rhywun yn ymateb yn gas wrthot yn awgrymu dy fod di naill ai yn pathologically naif, bach yn ddwl neu yn ifanc iawn ac heb lot o brofiad ynglyn â Chymru a phobl Cymraeg eu hiaith. Dweud y gwir wrthot, does dim ffyc o ots 'da fi beth mae tîm pel-droed Lloegr yn ei wneud, a sdim lot mwy 'da fi am dîm Cymru chwaith. Dyw e ddim yn bwysig i mi o gwbl. Ond wedi gweld un negesfwrdd eitha gobeithiol cael ei ddinistrio gan ymatebion cas i (mwy na dim byd arall) dy negeseuon di, ac wedi rhoi cryn dipyn o fy amser prin i mewn i sefydlu a gweinyddu'r bwrdd yma, dw i ddim yn mynd i eistedd yn dawel wrth i ti - neu unrhywun arall - piso yn y pwll 'ma.

Does dim rhaid i ti dderbyn hyn. Mae'r rhyngrwyd yn lle mawr, ac mae meddalwedd phpBB ar gael am ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Llun 14 Hyd 2002 9:34 pm

Wedi gweld ymateb newydd yn yr edefyn dan sylw a dw i wedi cloi fe. Does dim amser 'da fi i wneud mwy nawr.

Dw i ddim yn siwr os ydy hyn yn werth y ffycin hasl, dweud y gwir.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Alys » Maw 15 Hyd 2002 8:27 am

Dw i ddim yn siwr os ydy hyn yn werth y ffycin hasl, dweud y gwir


Medra i ddallt sut wyt ti'n teimlo ynglyn â hyn, ond jyst i ddweud dwi'n siwr fod na nifer fawr o bobl sy'n gwethfawrogi be ti'n neud hefo'r negesfwrdd yma, paid â digaloni! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan nicdafis » Maw 15 Hyd 2002 2:43 pm

Diolch Alys. Ddylwn i ddim wedi mynd mor grac neithiwr, ond ro'n i wedi blino.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai