Clwb Cefnogwyr y Maes?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fyddet ti'n fodlon talu £2 y mis i fod yn aelod o Glwb Cefnogwyr y Maes?

Byddwn, siwr o fod, mewn theori
60
86%
Na fyddwn, nefar yn Ewrop, ti off dy ben
10
14%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 70

Clwb Cefnogwyr y Maes?

Postiogan nicdafis » Maw 31 Mai 2005 6:01 pm

O'r gorau, dyma syniad sy wedi bod yng nghefn fy meddwl ers amser, ac mae rhywbeth dw i wedi trafod gydag Aran (felly dw i'n gwybod bydd o leia un person arall o blaid y syniad). Mae wedi bod yn amlwg ers tro, i fi os nid i bob un ohonoch chi, bod rhedeg maes-e yn ormod o waith i berson sy'n gweithio mewn job sy ddim yn gadael iddo fe fod ar lein am oriau yn ystod y dydd. Felly dw i am fynd ati o ddifri dros y misoedd nesa i ffeindio'r ffordd orau o wneud incwm o'r maes, rhywbeth dw i wedi crybwyll o'r blaen.

Un opsiwn, a'r un dw i'n tueddu ato ar hyn o bryd, yw'r model mae Aran yn ei ddefnyddio ar <a href="http://sgwarnog.com" title="sustem gwebost cymraeg">sgwarnog.com</a>, sef codi ffî tanysgrifio o ryw £2 y mis. Cyn i chi gyd fynd i banig, <b>na fydd hyn yn orfodol</b>. Dim ond pobl sy eisiau cefnogi'r maes yn ariannol fydd yn talu. Fydd y bobl 'na ddim yn cael unrhyw statws ychwanegol ar y maes, a byddan nhw dal yn aelodau o dan yr un amodau mae pawb arall yn aelod - yr unig gwahaniaeth yw os bydda i'n gwahardd rhywun sy wedi tanysgrifio, fydd fy llinell arferol am gael <i>refund</i> ddim yn jôc. Mae'n bosib y bydd pethau fel cynhigion arbennig sydd ar gael i aelodau'r Clwb Cefnogwyr (crysiau-T ac ati), ond dw i ddim wedi meddwl cyn belled â hynny ymlaen eto.

Y prif reswm dros fynd am hyn o gynllun yn lle hybu'r hysbysebion yn fwy egnïol yw, yn syml iawn, dw i ddim yn ffansio gwerthu hysbysebion am fy mywoliaeth.

Sylwch, dim ond syniad yw hyn. Dw i heb wneud fy meddwl i fyny eto. Ac er mod i'n gosod hyn fel cwestiwn pôl piniwn, dw i'n cadw'r hawl i'ch anwybyddu chi i gyd a wneud penderfyniad hollol wallgo sy'n teimlo'n iawn i fi. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan GutoRhys » Maw 31 Mai 2005 6:49 pm

Dwi'n meddwl fod on syniad da. Fyddai hi'n ddiddorol gweld pwy fuasai a faint o bobl fuasai actually yn cyfranu. Chwarae teg, dwi ddim yn gwybod am lawer o wefannau sydd yn rhad ac am ddim ac sydd ddim wedi gwerthu ei hunain i hysbysebion. Ond y ffaith fod o ddim yn orfodol fydd yn denu pobl newydd yn ogystal a chadw hen bobl (mwy na thebyg fod chi wedi sylwi hyn yn barod!). Yr unig adeg fuasai ti'n gallu cael hysbysebion heb sbwylio'r wefan ydi hysbysebu gigs? (fyse na rhai newydd drwyr adeg wedyn byse?)
Rhithffurf defnyddiwr
GutoRhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 192
Ymunwyd: Iau 10 Chw 2005 7:23 pm
Lleoliad: Fry yn y ne, neu ar y llawr

Postiogan nicdafis » Maw 31 Mai 2005 10:03 pm

Diolch Guto.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Leusa » Maw 31 Mai 2005 10:10 pm

ay, syniad ymarferol iawn i ddeud gwir. 'Sa fo hydnoed ar binsh yn dychryn trolls i ffwrdd os ydyn nhw'n gweld bod na bobol yn cyfranu pres tuag at y fforwm.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Mwnci Banana Brown » Maw 31 Mai 2005 10:11 pm

Dwi'n cytuno Nic, a dwi hefyd yn cytuno gyda'r syniad o gynhigion arbennig i aelodau'r clwb. Bydd ishe rwbeth i ddenu pobol i danysgrifio dwi'n credu. Ond hefyd, dwi'n siwr fydd LOT o aelodau'r maes yn barod i gyfrannu ta beth- yn enwedig y rhai sy di bod ma ers sbel fach.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan Dai dom da » Maw 31 Mai 2005 10:34 pm

Aye, syniad da nic. Dwi'n ddigon parod i gyfrannu at yr achos, a dwi'n shwr fydd rhan fwyaf o'r maes yn hefyd. Syniad da ar y cyfan dwin meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Mr Gasyth » Maw 31 Mai 2005 10:40 pm

syniad da, er dwi'm yn gweld sut allai unrhywun gwyno petai yn orfodol. os wyt am ei gadw yn wirfoddol buaswn yn awgymru bydd angen 'incentives' os yw rhan helaeth yn mynd i gyfrannu.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan krustysnaks » Maw 31 Mai 2005 10:47 pm

Dwi'n cytuno ei fod yn syniad da. Mae llwyddiant iTunes a Napster ar ei newydd wedd yn profi fod pobl yn fodlon talu am wasanaethau ar y we roedden nhw'n arfer eu cael am ddim (dwi ddim yn ceisio ensynnu y dylai fynd ar fforwm drafod gael ei wneud yn anghyfreithlon).
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Rhys » Mer 01 Meh 2005 8:36 am

Ddim yn syniad ffôl o gwbwl. Er fod o'n wych sut mae'r maes yn tyfu'n gynyddol, mae'n amlwg yn creu mwy o waith cymedroli. Mae pobl fel rheol yn treulio eu hamser hamdden ar y we felly pam ddyle ti wario dy amser hamdden yn 'gweinyddu'. Oni bai am Sgwarnog, dwi ddim yn talu am unrhyw wasanaeth arall ar y we, ond gyda'r llu o wybodaeth dwi'n ei gael o faes-e, bydde talu ffi bach misol ddim yn afresymol.

Byddwn i hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu bod y ffi yn orfodol ond efallai yn £1 y mis yn hytrach na £2, ond byddai hawl gan unrhywun i ddarllen negeseuon heb ymaelodi. Yn bendant byddai sawl un anfodlon talu ac hwyrach byddai hyn yn rhoi awydd i rhywun arall greu negesfwrdd Cymraeg newydd sydd am ddim.

Dyle'r hysbysebion aros yn fy marn i achos dwi'n meddwl ei fod yn ffynhonell hysbysebu defnyddiol i fusnesau/sefydliadau Cymraeg. Efallai nad yw'n cael ei ddefnyddio (na'i hyrwyddo)yn helaeth ar hyn o bryd, ond siawns na welith pobl ei werth yn y dyfodol. Petawn i'n ceiso gwerthu/hysbysebu rhywbeth wedi ei anelu at pobl ifanc Cymraeg eu hiaith, mae maes-e yn mynd i gyrraedd mwy o fy Target Audience na hybyseb yn Golwg neu'r Cymro.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Sleepflower » Mer 01 Meh 2005 8:42 am

Fi o blaid ffi o £2 - mae'n gwneud y Maes yn gynaliadwy.

Gai awgrymu dy fod ti'n gwneud y broses o dalu mor idiot-proof ag sy'n bosib i tecno-ffobs fel fi. :wps:

Na wir, y fwya syml yw'r broses, y fwya o bobol bydde'n talu.

Fi dal bach yn feddw bore 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron