Clwb Cefnogwyr y Maes?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fyddet ti'n fodlon talu £2 y mis i fod yn aelod o Glwb Cefnogwyr y Maes?

Byddwn, siwr o fod, mewn theori
60
86%
Na fyddwn, nefar yn Ewrop, ti off dy ben
10
14%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 70

Postiogan nicdafis » Sul 05 Meh 2005 10:51 pm

Al a ddywedodd:A fydd Clwb cefnogwyr yn rhoi y 'privlage' o cael ymateb gan weinyddwr mewn NB os ti yn gyrru un iddo :winc: (sori dwin jiclyd :wps: )


Yn y bôn, bydd. Dydy rhedeg maes-e ddim yn golygu fy mod i ar gael 24/7 i ddatrys pob problem technegol pob aelod y maes. Gobeithio bydd safon y gwasanaeth yn codi unwaith bod y staff yn cael eu talu ;-)

Yr ateb yw "Na, dw i ddim yn gallu dy helpu di gosod sustem hysbysebu ar dy negesfwrdd. Mae rhaid bod yr atebion ar gael ar y fforymau cymorth ti'n sôn amdanyn nhw, achos llwyddais i'w wneud yma."
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Llun 06 Meh 2005 9:00 am

Manag Werdd a ddywedodd:Ia dwi'n dalld huna, ond i fod yn gwbwl onesd, dwi'm yn gweld fi'n dewis talu tan y bydda i'n gellu fforddio gwneud hynny. Sori!


£2 y mis! Oes yna unrhywun sydd ddim yn cysgu ar y stryd na fedar o fforddio £2 y mis? Llai na pris peint neno'r tad.

Ma'n rhaid fod yna hyd yn oed fwy o Gardis yma nag on i'n feddwl!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Al » Llun 06 Meh 2005 3:45 pm

nicdafis a ddywedodd:Yn y bôn, bydd. Dydy rhedeg maes-e ddim yn golygu fy mod i ar gael 24/7 i ddatrys pob problem technegol pob aelod y maes. Gobeithio bydd safon y gwasanaeth yn codi unwaith bod y staff yn cael eu talu ;-)

Yr ateb yw "Na, dw i ddim yn gallu dy helpu di gosod sustem hysbysebu ar dy negesfwrdd. Mae rhaid bod yr atebion ar gael ar y fforymau cymorth ti'n sôn amdanyn nhw, achos llwyddais i'w wneud yma."


Dim Amharch wan ond:
digon gwir galle dim ddim fod ar 24/7 ar maes ond eto NB oedd o felly man aros tan tin cyrraedd i yrru. Ac i bwyntio allan hyn, pa un tin meddwl fysa yn cymud hira i teipio

nicdafis a ddywedodd:Cwestiwn da, faint sydd nawr? Fi, hagfan, Cynyr, aLexus, Nic Glaw. Ydy sleepflower yn cyfri? Ydy Pob wedi llwyddo postio unrhywbeth eto? Unrhywun arall?
Llangrannog masîf.


ta hwn

nicdafis a ddywedodd:Na, dw i ddim yn gallu dy helpu di gosod sustem hysbysebu ar dy negesfwrdd.


wan dwin gwybod masiwr tin cael llwyth o NB mewn dydd, ond dim dy cyfrifioldeb di yw ymateb nhw? I ddeud y gwir o ni di siomi braidd cefais dim ymateb o gwbl gan rhywun sydd yn cael gymaint o barch. Mi fysa 'sori does genaim amser i dy helpu nawr, tria yn mis gorffenaf" neu be bynnag yn brill, gan fyddai yn gwybod ti wedi cael y NB ac wedi ymdrechu i rhoi ymateb i fi ynlle cael fy anwybyddu yn llwyr.

ac i nodi, dim gofyn i chdi neud o i mi o ni, mond i ti gyrru y ffeils MOD neu deutha fi lle gesdi y gwybodaeth o ni. dyna'r oll o ni angen :) .

ta waeth ai drio eto yn y forwm cymorth gan obeithio gai ateb(dim llawer o siawns cael un).

Sori am dorri ar draws y pwnc.

Yn Gywir
Aled

P.S. os bosib cael linc i'r man lle gesdir gwybodaeth ar y forwm cymorth?
Al
 

Postiogan nicdafis » Llun 06 Meh 2005 8:56 pm

Al, mae'n flin iawn 'da fi, ond does dim "cyfrifoldeb" 'da fi tuag atat ti. Dw i'n trial helpu pawb sy'n gofyn, ond weithiau dw i'n methu. Sori am hyn.

Dw i'n ffaelu cofio ble ffeindiais i'r gwybodaeth ti'n edrych amdano. Beth am bostio dy gwestiwn ar y maes yn gyhoeddus yn lle aros amdana i?

Nawr, os ydy hi'n iawn 'da ti, dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion trwy'r dydd a hoffwn i <i>ymlacio</i> am ryw awr cyn i mi fynd i'r gwely.

Dylwn i fod yn ddiolchgar i ti am ddod â hyn o ddadl i mewn i'r edefyn 'ma, gan fod e'n dangos pa mor anghynaladwy yw'r sefyllfa bresennol.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Al » Llun 06 Meh 2005 9:06 pm

nicdafis a ddywedodd:Al, mae'n flin iawn 'da fi, ond does dim "cyfrifoldeb" 'da fi tuag atat ti. Dw i'n trial helpu pawb sy'n gofyn, ond weithiau dw i'n methu. Sori am hyn.

Dw i'n ffaelu cofio ble ffeindiais i'r gwybodaeth ti'n edrych amdano. Beth am bostio dy gwestiwn ar y maes yn gyhoeddusyn lle aros amdana i?

Nawr, os ydy hi'n iawn 'da ti, dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion trwy'r dydd a hoffwn i <i>ymlacio</i> am ryw awr cyn i mi fynd i'r gwely.Dylwn i fod yn ddiolchgar i ti am ddod â hyn o ddadl i mewn i'r edefyn 'ma, gan fod e'n dangos pa mor anghynaladwy yw'r sefyllfa bresennol.



mi wnai i union hyna, diolch am dy ymateb :D

(gweler italics) tisio trio neud 6 exam TGAU mewn rhes ynlle? :lol:

nol i'r pwnc
Al
 

Postiogan Manag Werdd » Llun 06 Meh 2005 10:14 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Manag Werdd a ddywedodd:Ia dwi'n dalld huna, ond i fod yn gwbwl onesd, dwi'm yn gweld fi'n dewis talu tan y bydda i'n gellu fforddio gwneud hynny. Sori!


£2 y mis! Oes yna unrhywun sydd ddim yn cysgu ar y stryd na fedar o fforddio £2 y mis? Llai na pris peint neno'r tad.

Ma'n rhaid fod yna hyd yn oed fwy o Gardis yma nag on i'n feddwl!


:wps: O leia dwi'n bod yn onesd ddo! :lol:
Mae'r Faneg wastod yn agos...Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Manag Werdd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 307
Ymunwyd: Sul 15 Mai 2005 4:17 pm
Lleoliad: Ffatri Menyg (Gwyrdd)

Postiogan huwwaters » Maw 07 Meh 2005 3:46 pm

Al a ddywedodd:(gweler italics) tisio trio neud 6 exam TGAU mewn rhes ynlle?


Beth am neud 14 arholiad lefel A mewn rhes?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Llefenni » Maw 07 Meh 2005 4:47 pm

Dwi'n credu bod hyn yn syniad cynaladwy i gadw'r maes i fynd fel ac y mae - mae'n amlwg wedi tyfu'n fehemoth annodd ond cariadus :winc:

Byth ers colaps enwog '04, mae hyn wedi bod ar y gorwel, da iawn am rannu'r syniad mor fuan. Dwi'm yn cael hanner digon o gyfle i gyfrannu negeseuon yn ddiweddar, ond byddwn digon bodlon i gyfrannu i gadw'r hen le i fynd :D
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Wierdo » Iau 09 Meh 2005 5:21 pm

Mi ydwi'n stingy, mi ydwi'n dlawd, ond MI FYSWN i'n fodlol talu £2 y mis am maes-e. Dwnim be swni'n neud hebdda fo! (mwy a waith mashwr...dechi'n sylweddoli mod i fod yn sdydio wan?!) Dwi'n meddwl fod o'n syniad da. Ac ar ddiwedd y dydd denin mynd i gael maes gwell am ein pres yntydan!

huwwaters a ddywedodd:
Al a ddywedodd:(gweler italics) tisio trio neud 6 exam TGAU mewn rhes ynlle?


Beth am neud 14 arholiad lefel A mewn rhes?

Faint o byncia tin ei wneud? Ma gin i 7 arholiad dros gyfnod o 20 dwrnod ac dwin meddwl fod hynnyn galed :wps: :rolio: (sori i fynd oddi ar y pwnc)
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Aran » Iau 09 Meh 2005 7:36 pm

Nodyn bach sydyn i'r rhai sy'n sôn am dalu gan anfon sieciau - byddai hynny'n creu mwy o waith gweinyddol i Nic, a'r math o waith gweinyddol sy'n medru mynd yn uffar o domen fawr yn reit sydyn.

Archeb sefydlog ydy'r ffordd hawsaf oll, ac yn golygu bod hynny o amser Nic ein bod ni'n prynu gyda hyn yn cael ei dreulio ar redeg y Maes, nid dreifio i'r banc... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai