radio maes-e?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

radio maes-e?

Postiogan mwgdrwg » Gwe 10 Meh 2005 7:17 pm

Yn aml ar nos Wener mae'r syniadau'n llifo :)

Oes rhywun wedi meddwl am wneud radio maes-e?

Dwi'n gwrando ar dipyn o podcasts (sioe radio i lawrlwytho fel mp3) o diddordeb i mi ac oeddwn yn meddwl fysa un Cymraeg yn cwl. Tydi Radio Cymru a Champion 103 jyst dim yn gwneud dim byd i mi.

Fysa sioe yn gallu bod am y miwsig mae pobl yn wneud yn ei bandiau neu jyst pobl yn malu cachu am syniadau nhw am dyfodol y iaith, neu siarad am football neu rwbath.

Be da chi'n feddwl ta?
Rhithffurf defnyddiwr
mwgdrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:25 am

Postiogan Llefenni » Gwe 10 Meh 2005 7:53 pm

Syniad yn un diddorol - ond bydde angen llwyth o gymredolwyr i ddelio efo dy mp3s di - nessie the dragon a switi'r chick geith hi nesa?! :winc:

Neh, bydde hi'n dda rhoi lleisiau i rithffurfiau a clywed bandiau'r maes :D
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan mwgdrwg » Gwe 10 Meh 2005 8:23 pm

fydd yna dim problem efo rhegi mewn podcast...gei di ddweud beth bynnag ti isho 8)
Rhithffurf defnyddiwr
mwgdrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:25 am

Postiogan Wierdo » Gwe 10 Meh 2005 9:05 pm

fysa radio maes-e yn cwl. cytunaf gyda Llefeni fysan cwl rhoi lleisiau i'r rhithffurfiau. mi fysain rili cwl gallu clywed bandiau'r maes *ahem*babansgwiral*ahem*... 8)
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Archalen » Gwe 10 Meh 2005 9:11 pm

Waw, nes i feddwl yr un peth! syniad gret, a cytuno nad yw Radio Cymru'n neud dim i neb- peth dwetha wi moyn neud yw gwrando ar orsaf sy'n darlledu can anhygoel e.e. Gruff, 'Gwn Mi Wn', yng nghanol John ac Alun a Queen!!!!!! :? A hynny rhwng hen siarad di-ddim DJs sy'n gwbod dim iot am ddim byd am gerddoriaeth...buase fy hen hosan wlannog yn neud gwell job.


hhwfff! Dyna fy rant wedi dod o derfyn...unrhywun arall?!
If they'd've won her, we wouldn't have heard the end of her ar f'enaid i!
Rhithffurf defnyddiwr
Archalen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 381
Ymunwyd: Llun 06 Meh 2005 3:30 pm
Lleoliad: Rhwng dwy stol

Postiogan Al » Gwe 10 Meh 2005 9:27 pm

Archalen a ddywedodd:Waw, nes i feddwl yr un peth! syniad gret, a cytuno nad yw Radio Cymru'n neud dim i neb- peth dwetha wi moyn neud yw gwrando ar orsaf sy'n darlledu can anhygoel e.e. Gruff, 'Gwn Mi Wn', yng nghanol John ac Alun a Queen!!!!!! :? A hynny rhwng hen siarad di-ddim DJs sy'n gwbod dim iot am ddim byd am gerddoriaeth...buase fy hen hosan wlannog yn neud gwell job.


hhwfff! Dyna fy rant wedi dod o derfyn...unrhywun arall?!


ia, caneuon Gruff Rhys fysa'n plesio e.e. Ni yw y byd, pwdin wy ayyb.

neu efalla ychydig o'r furries e.e. Ysbeidiau heulog

ta waeth efalla gall Prysor, Joni, a finna creu stori's fel y rydym wedi
neud

neu efalla ddim, dwin mynd rhy cocky gyda'r sylw anhisgwyl i be wnaeth joni finna a prysor sgwennu am hwyl :wps:
Al
 

Postiogan GutoRhys » Gwe 10 Meh 2005 9:46 pm

podcast ? Be di hynu? Sut fyse chi'n cael yr offer i neud o? Sut fyse chi'n gallu cael hawlfraintiau i chwarae caneuon pobl?!?!?

Realistig wan dudes? Sut da chi'n mynd i neud o?

(pesemistig ar ei waethaf sori :( )
Rhithffurf defnyddiwr
GutoRhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 192
Ymunwyd: Iau 10 Chw 2005 7:23 pm
Lleoliad: Fry yn y ne, neu ar y llawr

Postiogan bartiddu » Gwe 10 Meh 2005 9:51 pm

Arwahan bod bandiau/artistiaid yn rhoi caniatad i chware'i gwaith am ddim, lle fydde'r cyllid yn dod i'w talu? Wrth gwrs bydde lle i artistiaid newy' 'plygio'u' stwff am ddim, talu 'tansgryfiad' blynyddol fydde'r ateb i rhybeth fel hyn falle, bach ar ben y tal £2 y mis ma' nic wedi crybwyll, neu contractio'r gwaith allan i rhywyn arall, ca'l aelod gwahanol o'r maes pob dydd/nos i'w cyflwyno? (edrych mla'n i sioe I.N.G. yn barod! :lol: a sioe Politicaidd Realydd! )
Gwell gen i fod e am ddim wrth gwrs! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Cawslyd » Gwe 10 Meh 2005 11:04 pm

Un sioe fysa sioe cymharu acenion a tafodiaiths.

"Aru fi cal aidiar da ddoe, ia, cont"
"Wel wel, cefes i synied dde ddo, ychan"
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Al » Gwe 10 Meh 2005 11:06 pm

Cawslyd a ddywedodd:"Aru fi cal aidiar da ddoe, ia, cont"
"Wel wel, cefes i synied dde ddo, ychan"


tydi pawb yn Gogledd Cymru ddim yn swnio fel cofi :winc:

ond eto, mi fysa cymharieth yn dda 8)
Al
 

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai