Wrth i weinyddwyr y maes datblygu'r safwe, gai ofyn am iddynt ystyried y posibilrwydd o ychawanegu y gallu i weld "negeseuon a bostwyd" yn ystod y 24 awr / 48 awr, pa faint bynag awr diwethaf? (Mae byrddau tebyg yn cynig y fath wasanaeth)
Un o'r pethau sydd yn fy nrysu efo'r system bresenol yw gweld neges e-bost sy'n dweud fy mod wedi derbyn ymateb i neges, clicio arno i weld yr ymateb, ei ddarllen ac yna cau Maes-e er mwyn mynd yn ol i'r e-byst.
Wedi darllen fy e-lythyrau, yr wyf yn mynd at y maes i ddarganfod nad oes neges "newydd" ers "fy ymweliad diwethaf" - nid ddoe, pan ymwelais a'r maes, "go iawn", diwethaf ond pum munud yn ol pan gliciais ar y ddolen - ac fy mod wedi methu canoedd o negeseuon newydd difir a phostwyd ers fy ymweliad "go iawn" diwethaf. Ac och! a gwae! o'r herwydd mae HOLL defnyddwyr y maes yn cael eu hamddifadu o fy marn cytbwys, addysgiadol a theg ar y pynciau dan sylw gan fy mod yn methu gweld eu cyfraniadau salw er mwyn i mi roi ymateb gwerth chweil iddynt