Prysor a ddywedodd:Oes na'm ffordd arall o gynnal y peth yn ariannol, Nic?
Oes, wrth gwrs, alla i fod wedi mynd at Fwrdd yr Iaith/y Cynulliad a gofyn am grant. Byddai hynny wedi bod yn well? Maes-e mewn liferi'r Bwrdd? Ac mae pethau eraill ar y gweill, fel gwerthu hysbysebion - os dw i'n ffeindio bod hynny yn gynaladwy, felly bydd yn bosibl i ystyried eto. 'Swn i'n gefnog ac annibynnol, fyddai dim rhaid wneud hyn o gwbl - alla i gario ymlaen fel dw i wedi wneud, am ddim. Ond dw i ddim, yn anffodus.
Y newid yn enw gradd yw'r unig gwahaniaeth rhwng y bobl sy'n talu a phobl sy ddim. Fydd dim gwahaniaeth yn y cymedroli tuag at aelodau'r Clwb Cefnogwyr.
Fydda i ddim yn gweld bai ar neb sy ddim am gyfrannu yn y ffordd 'ma, yn enwedig pobl fel ti sy'n cyfrannu mewn ffordd adeiladol iawn i lwyddiant y maes. 'Sai rhaid i mi ddewis rhwng y ddau fath o gyfraniad, wel, fyddai dim dewis. Fyddai neb yn talu am fod yn aelod o wefan ddiflas, na fyddai?
Dw i'n falch dy fod di wedi codi'r pwnc, achos dw i'n ei weld yn un pwysig iawn i ni drafod. Dyddiau cynnar yw'r rhain, ac am wn i, y tro cyntaf i rywun trial rhedeg gwefan o'r fath hyn, yn y Gymraeg, yn brofesiynol, heb arian cyhoeddus.