Prysor a ddywedodd:Digon hawdd deud 'dim ond dwy bunt y mis ydio', dydi? Ond pan ti'n rhoi dwy bunt y mis i fwy nag un achos, cymdeithas, mudiad, clwb, yswiriant etc mae o'n dipin gwahanol dydi? Onibai eich bod yn sengl ac yn gweithio i'r cwangos yng Nghaerdydd.
Mae hynny'n hollol gywir - am wn i, fuasai'n bancryptio dyn i gyfrannu at bob dim.
Ond ar yr un pryd, fyddai neb mae'n siwr yn awgrymu na ddylai'r gwahanol achosion a mudiadau yn ceisio codi pres...
Felly, hyd y gwela i, anghytundeb sydd yma am nodi pwy sydd wedi talu a phwy sydd heb, sydd yn bwynt teilwng o drafodaeth.
Dw i'n ei weld mewn dwy ffordd wahanol - mae fy ochr fflyffi yn cytuno efo Prys fod o'n bach yn annheg ar gyfer cyfrannwyr selog sydd ddim mewn sefyllfa i fod yn 'gefnogwyr' swyddogol...
Ond mae fy ochr marchnata yn gwybod y bydd y gwahaniaeth yn rhoi gwthiad bach yng nghefn rhai pobl i gychwyn talu lle buasen nhw efallai fel arall yn 'gohirio tan yfory'... yn sicr, bydd patrymau 'cefnogi' y Maes yn rhywfaint gwell o'i herwydd.
Bydd angen gwylio rhag unrhyw agwedd 'fy nadl i'n iawn oherwydd mod i'n gefnogwr a dwyt ti ddim', ond dw i'n gobeithio na fydd hynny'n codi yn aml - a phe bai unrhywun yn ei wneud yn gyson, mae'n siwr y byddai gwahanol ffyrdd o'u hannog i beidio.