Ble aeth yr enwau graddau? (Caeth i'r Maes, ac ati)

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Panom Yeerum » Llun 18 Gor 2005 3:38 pm

Ti am ein gadael Nicky? Piti garw.

Dwi'n dallt pam bod nic yn rhoi y gradd newydd, ond a fuasai bosib ei wneud yn fwy subtle efallai?

Cadw yr un drefn ag o'r blaen (Defnyddiwr newydd, caeth i'r maes ayb) ond bod y 'dots' bach mewn lliw gwahanol i gefnogwyr? Dots glas i ddefnyddwyr, dots aur bach neis i gefnogwyr. Oes modd neud hyn? Neu rhoid lliw gwahanol i enw cyfranwyr.
Panom Yeerum
 

Postiogan Mali » Llun 18 Gor 2005 4:03 pm

Mae'n anodd plesio pawb .....ond dwi'n meddwl na'r 'stumbling block ' y fan yma ydi diflaniad y graddau...caeth i'r maes ayb. A chan fod rhain wedi diflanu, mae'r rhan fwyaf ohonom yn cael ein gadael efo dewis o ddau , sef 'Cefnogwr' neu 'Defnyddiwr' . Ac ella fod hyn yn rhoi mwy o bwysau ar unigolion i gyfranu'n arianol, er nad oes raid iddynt. Wedi'r cyfan , mae 'Cefnogwr' yn swnio'n well na 'Defnyddiwr' . Ydi'n bosibl creu cyfuniad o'r ddau....sef cadw'r enwau graddau 'caeth i'r maes', 'fanatig', ayb ar gyfer y 'Defnyddiwr'.
Yn sicr y ffordd ymlaen ydi i gynnal maes-e yn ariannol , ac mae 'na gefnogaeth i hyn dwi'n siwr. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan nicdafis » Llun 18 Gor 2005 4:18 pm

Meic P a ddywedodd:Os taswn i am gyfrannu, mi fasa'n well geni wneud hynny yn anhysbys.


Fyddai hynny ddim yn broblem. Unrhywun sy moyn bod yn Gefnogwr anhysbys, cysylltwch.

O'r gorau, mae'n amlwg mod i ddim wedi rhoi digon o feddwl i hyn. Yn amlwg, dw i ddim am ddi-eithrio pobl trwy wneud hyn, dyw hynny ddim yn mynd i fy helpu fi, na'r maes yn y pendraw. Meddwl o'n i am wneud rhywbeth syml, ond wrth gwrs dyw pethau syml ddim yn siwto pawb yr un ffordd.

Byddwn yn gwerthfawrogi mwy o sylwadau ar hyn.

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan lleufer » Llun 18 Gor 2005 4:22 pm

Sdim ots gen i beth mae Nic yn dewis wneud gyda'r enwau/graddiau aelodau.

Dw i di dewis cefnogi oherwydd fy mod a diddordeb mewn hyrwyddo'r we Gymraeg, fy mod yn ceisio adeiladu dyfodol cynaladwy i fy hun ar y we a mod i'n deall cymaint o waith caled/amser mae Nic yn ei roi i gynnal y maes, a dw i'n cael pleser ymlaciol wrth falu awyr ar y maes a paned yn fy llaw pan dw i eisiau saib bach o fwrlwm bywyd.

Ond petawn ni byth yn cael diolch na chydnabyddiaeth am hyn fysa mots o gwbl gen i, dw i'n dewis defnyddio'r maes a dw i'n ei fwynhau ac yn meddwl mai'r lleiaf allaf wneud yw rhoi £2 y mis am y pleser, tydy o'm byd nac ydy - a nac ydw tydw i'm yn agos at fod yn gefnog. Ond waeth i mi wario £2 y mis ar hyn na £2 pob gyda'r nos ar wydrad mewn ty tafarn myglyd tra'n syllu ar y wal.

Os da chi'n dewis cefnogi, iawn, os nag ydych, iawn - pawb at y peth a bo de, da ni gyd yn cyfrannu at rhywbeth yn rhywle yn ein ffordd ein hunain ac mae genym i gyd yr hawl i ddewis beth da ni am gefnogi.
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Meic P » Llun 18 Gor 2005 9:14 pm

lleufer a ddywedodd:Sdim ots gen i beth mae Nic yn dewis wneud gyda'r enwau/graddiau aelodau.

Dw i di dewis cefnogi oherwydd fy mod a diddordeb mewn hyrwyddo'r we Gymraeg, fy mod yn ceisio adeiladu dyfodol cynaladwy i fy hun ar y we a mod i'n deall cymaint o waith caled/amser mae Nic yn ei roi i gynnal y maes, a dw i'n cael pleser ymlaciol wrth falu awyr ar y maes a paned yn fy llaw pan dw i eisiau saib bach o fwrlwm bywyd.

Ond petawn ni byth yn cael diolch na chydnabyddiaeth am hyn fysa mots o gwbl gen i, dw i'n dewis defnyddio'r maes a dw i'n ei fwynhau ac yn meddwl mai'r lleiaf allaf wneud yw rhoi £2 y mis am y pleser, tydy o'm byd nac ydy - a nac ydw tydw i'm yn agos at fod yn gefnog. Ond waeth i mi wario £2 y mis ar hyn na £2 pob gyda'r nos ar wydrad mewn ty tafarn myglyd tra'n syllu ar y wal.

Os da chi'n dewis cefnogi, iawn, os nag ydych, iawn - pawb at y peth a bo de, da ni gyd yn cyfrannu at rhywbeth yn rhywle yn ein ffordd ein hunain ac mae genym i gyd yr hawl i ddewis beth da ni am gefnogi.


Cytuno
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan 7ennyn » Llun 18 Gor 2005 10:18 pm

I rywun fel fi sydd ddim yn gallu cyfrannu yn synhwyrol i'r trafodaethau, dwi'n gallu cadw fy nghydwybod yn dawel drwy dalu pres budur bob mis. Ond dwi ddim yn hapus efo galw'r rhai hynny sydd yn gwneud y lle 'ma yn wirioneddol ddiddorol (e.e. Prysor) yn 'ddefnyddwyr'. Mae o yn derm reit hyll dwi'n meddwl.

Dwi ddim yn Bleidiwr nac yn fardd gyda llaw (ond mi ydw i'n Gog!). Dwi ddim chwaith yn sengl nac yn gweithio i'r cwangos yng Nghaerdydd. Sbwrgi tlawd ydw i.

Dwi'n meddwl bod y gradd 'defnyddiwr' yn beryg o ddieithrio pobl.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan dafydd » Llun 18 Gor 2005 10:53 pm

7ennyn a ddywedodd:Ond dwi ddim yn hapus efo galw'r rhai hynny sydd yn gwneud y lle 'ma yn wirioneddol ddiddorol (e.e. Prysor) yn 'ddefnyddwyr'. Mae o yn derm reit hyll dwi'n meddwl.

A fyddai 'Cyfrannwr' yn well? Mae pawb sy'n postio yn cyfrannu i'r maes, er gwell neu er gwaeth. Mi all rhai pobl ddewis gyfrannu yn ariannol - mae'n deg galw hwn yn 'gefnogwr' - mae'n rhoi sicrwydd ariannol tymor hir i'r boi sy'n rhedeg y wefan a mae'n rhoi annibynniaeth i'r wefan yn yr ystyr y gall y 'defnyddwyr' gynnal y peth ein hunain yn hytrach na dibynnu ar garedigrwydd Nic.

Mae 'noddwr' yn esbonio ei hun wrth gwrs - mae noddwyr yn disgwyl rhywbeth nôl, sef hysbyseb yn yr achos yma. Mae nifer o wefannau trafod yn gweithredu y math yma o system a dwi ddim yn credu fod e'n gwneud llawer o wahaniaeth ar sut mae pobl yn trin eu gilydd, os yw pawb yn deall y sgôr. Dwi wedi cyfrannu am flynyddoedd i rhai fforymau fel aelod gwadd heb deimlo'n israddol (yn enwedig os yw pobl yn diolch am neges ddefnyddiol).
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Prysor » Llun 18 Gor 2005 11:43 pm

Dwi'n dal i ddeud nad yw hi'n hawdd i bawb dalu - mae pob unigolyn neu sefydliad sy'n gofyn am arian misol yn deud "dim ond pris peint ydio" ond mae llawer o bobl wedi cyfyngu eu noson allan i unwaith y mis neu lai y dyddiau hyn oherwydd arian yn dynn.

Ond dwi yn cnesu at y syniad o dalu fel modd o gynnal y peth yn annibynnol - ffyc, dwi'n sbowtian mlaen digon am greu sîn annibynnol wrth drafod pethau Cymraeg eraill! Ond fyddai'n lot hawsach i fi daflu 24 punt i'r pot pan dwi'n fflysh na talu bob mis.

Ond mae'r categoreiddio yn fy mhoeni oherwydd ei natur o ddieithrio ar sail talu yn hytrach na brwdfrydedd a/neu teilyngdod. (a dwi ddim yn deud bo fi yn haeddu o gwbwl, jesd pwynt craidd cyffredinol ydio)

A dwi dal yn reddfol-wrthwynebus i freintiau. Fyddai modd i bobol dalu a peidio derbyn y breintiau hyn?

neu ydw i'n bod yn syniadaethol ddogmataidd a phedantig? Plis dwedwch os ydw i.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Prysor » Llun 18 Gor 2005 11:45 pm

o ia - cytuno efo Dafydd fod 'Cyfranwr' yn well, gyda llaw.

a pwyntiau 7ennyn hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Mali » Maw 19 Gor 2005 4:04 am

lleufer a ddywedodd:Sdim ots gen i beth mae Nic yn dewis wneud gyda'r enwau/graddiau aelodau.

Dw i di dewis cefnogi oherwydd fy mod a diddordeb mewn hyrwyddo'r we Gymraeg, fy mod yn ceisio adeiladu dyfodol cynaladwy i fy hun ar y we a mod i'n deall cymaint o waith caled/amser mae Nic yn ei roi i gynnal y maes, a dw i'n cael pleser ymlaciol wrth falu awyr ar y maes a paned yn fy llaw pan dw i eisiau saib bach o fwrlwm bywyd.

Ond petawn ni byth yn cael diolch na chydnabyddiaeth am hyn fysa mots o gwbl gen i, dw i'n dewis defnyddio'r maes a dw i'n ei fwynhau ac yn meddwl mai'r lleiaf allaf wneud yw rhoi £2 y mis am y pleser, tydy o'm byd nac ydy - a nac ydw tydw i'm yn agos at fod yn gefnog. Ond waeth i mi wario £2 y mis ar hyn na £2 pob gyda'r nos ar wydrad mewn ty tafarn myglyd tra'n syllu ar y wal.

Os da chi'n dewis cefnogi, iawn, os nag ydych, iawn - pawb at y peth a bo de, da ni gyd yn cyfrannu at rhywbeth yn rhywle yn ein ffordd ein hunain ac mae genym i gyd yr hawl i ddewis beth da ni am gefnogi.



O'r galon lleufer....
Dwi'n talu tua'r run faint am gael papur bro bob mis ...hyn yn cynnwys y postio. Ond i fod yn gwbwl onest, dwi'n cael llawer mwy o bleser ar maes-e nag ydwi wrth ddarllen y papur bro !
Wedi'r cyfan, mae 'na fwy o fywyd yma :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron