Ble aeth yr enwau graddau? (Caeth i'r Maes, ac ati)

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ble aeth yr enwau graddau? (Caeth i'r Maes, ac ati)

Postiogan nicdafis » Sul 17 Gor 2005 2:37 pm

Fel dw i'n esbonio <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13104">yma</a>, mae sustem o enwau graddau wedi'i newydd, yn sgîl dyfodiad y Clwb Cefnogwyr. Sori am hyn, dw i'n rhagweld y bydd llawer yn anhapus amdano.

Dyma edefyn i chi i gyd gwyno am y penderfyniad erchyll hwn. Joiwch ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sul 17 Gor 2005 2:58 pm

Syniad da. Roedd yr hen enwau yn gwneud i bobl bostio rwtsh fel ei bod nhw'n cael codi gradd beth bynnag.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan gronw » Sul 17 Gor 2005 7:06 pm

Macsen a ddywedodd:Syniad da. Roedd yr hen enwau yn gwneud i bobl bostio rwtsh fel ei bod nhw'n cael codi gradd beth bynnag.

dwi'n postio rwtsh achos bo fi rhy ddiog i godi oddi wrth y cyfrifiadur a mynd i neud rwbeth iwsffwl. dwi'n meddwl bod y ffenomenon yna yn eitha cyffredin. sut mae stopio hynny?!

mae gen i syniad gwell. beth am lincio carma pobl i'w standing orders. mwya chi'n dalu, mwya gwyrdd ydych chi!
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan nicdafis » Sul 17 Gor 2005 8:25 pm

Fyddai rhaid i mi dalu sydd â charma coch wedyn? Ddim yn siwr am hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Al » Sul 17 Gor 2005 8:33 pm

gronw a ddywedodd:mae gen i syniad gwell. beth am lincio carma pobl i'w standing orders. mwya chi'n dalu, mwya gwyrdd ydych chi!


Felly os tin Dwat llwyr ond yn gyfeuthog tin o reit?

dwin meddwl ddylia y hen graddio dod yn ol oherwydd dwin meddwl mae o braidd yn diflas ddim yn gallu symud fyny gradd ayyb. Ac i rhoi y graddau eraill sef y rhai os tin talu ayyb fel rhai arbennig, tin gwbo be dwin son am dwt Nic :winc: . Oll fydd rhaid i chdi neud wedyn ydi pan mae person yn ymuno a'r clwb ydi rhoi y gradd arbennig iddo sydd yn dod cyn yr un 'post count'.
Al
 

Postiogan gronw » Sul 17 Gor 2005 9:26 pm

Al a ddywedodd:Felly os tin Dwat llwyr ond yn gyfeuthog tin o reit?

ie, do'n i ddim o ddifri, jyst meddwl fyswn i'n cael go ar fod yn asgell dde. dwi'n meddwl nai give it up as a bad job (esgusodwch y saesneg).

Al a ddywedodd:dwin meddwl ddylia y hen graddio dod yn ol oherwydd dwin meddwl mae o braidd yn diflas ddim yn gallu symud fyny gradd ayyb.

dwi ddim yn cytuno, mae'r system carma, sydd i fod yn adlewyrchiad o safon eich cyfraniadau i'r maes, yn fesurydd lot mwy synhwyrol na "pa mor gaeth wyt ti i'r maes", h.y. sawl darn unigol o jync ti'n gallu sgwennu.

wedyn mae'r rhan fwyaf o bobl yn "Ddefnyddwyr", debyg, sy'n neud sens. gobeithio y bydd tipyn o bobl sydd am weld maes-e yn parhau ac yn llwyddo yn gwneud cyfraniad o ddwybunt y mis, pris peint rhad; os ydyn nhw, bydd hynny lawr jyst fel arwydd bo nhw'n gefnogol i "brosiect maes-e"!

ddim yn rhagweld y bydd lot fawr o ddefnyddwyr cyson yn troi'n noddwyr. ac eto pwy a wyr?

mae'r pedwerydd categori -- gweinyddwyr -- yn bwysig achos dwi ddim yn meddwl ein bod ni (cynnwys fy hunan) wastad yn llawn sylweddoli cymaint o waith mae'r pedwar yna'n wneud dros maes-e.

gwd thing.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Prysor » Llun 18 Gor 2005 8:24 am

ffyc sêcs, dyma ni, first class a second class. Bolycs, sori. Bolycs llwyr. Oes na'm ffordd arall o gynnal y peth yn ariannol, Nic?

Digon hawdd deud 'dim ond dwy bunt y mis ydio', dydi? Ond pan ti'n rhoi dwy bunt y mis i fwy nag un achos, cymdeithas, mudiad, clwb, yswiriant etc mae o'n dipin gwahanol dydi? Onibai eich bod yn sengl ac yn gweithio i'r cwangos yng Nghaerdydd.

sori, dwi'n erbyn y datblygiad, a dwi ddim yn licio cael fy nghategoreiddio fel 'dim cefnogwr' am hynny. Dwi YN GEFNOGWR i maes-e, ac wedi bod YN GEFNOGWR ers y ffycin dechra. Mwy sydyn dydw i ddim am nad ydw i'n talu.

mae hyn yn anghyfiawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan nicdafis » Llun 18 Gor 2005 11:33 am

Prysor a ddywedodd:Oes na'm ffordd arall o gynnal y peth yn ariannol, Nic?


Oes, wrth gwrs, alla i fod wedi mynd at Fwrdd yr Iaith/y Cynulliad a gofyn am grant. Byddai hynny wedi bod yn well? Maes-e mewn liferi'r Bwrdd? Ac mae pethau eraill ar y gweill, fel gwerthu hysbysebion - os dw i'n ffeindio bod hynny yn gynaladwy, felly bydd yn bosibl i ystyried eto. 'Swn i'n gefnog ac annibynnol, fyddai dim rhaid wneud hyn o gwbl - alla i gario ymlaen fel dw i wedi wneud, am ddim. Ond dw i ddim, yn anffodus.

Y newid yn enw gradd yw'r unig gwahaniaeth rhwng y bobl sy'n talu a phobl sy ddim. Fydd dim gwahaniaeth yn y cymedroli tuag at aelodau'r Clwb Cefnogwyr.

Fydda i ddim yn gweld bai ar neb sy ddim am gyfrannu yn y ffordd 'ma, yn enwedig pobl fel ti sy'n cyfrannu mewn ffordd adeiladol iawn i lwyddiant y maes. 'Sai rhaid i mi ddewis rhwng y ddau fath o gyfraniad, wel, fyddai dim dewis. Fyddai neb yn talu am fod yn aelod o wefan ddiflas, na fyddai?

Dw i'n falch dy fod di wedi codi'r pwnc, achos dw i'n ei weld yn un pwysig iawn i ni drafod. Dyddiau cynnar yw'r rhain, ac am wn i, y tro cyntaf i rywun trial rhedeg gwefan o'r fath hyn, yn y Gymraeg, yn brofesiynol, heb arian cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Llun 18 Gor 2005 11:45 am

£2 y mis - llai na phris un peint. Dim byd rili nag ydi.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan garynysmon » Llun 18 Gor 2005 12:12 pm

Mae o pan sgen ti ddim job a dydi'r banc cau gadael i chdi gael dy gerdyn yn ol :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron