Ble aeth yr enwau graddau? (Caeth i'r Maes, ac ati)

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan 7ennyn » Maw 19 Gor 2005 5:46 am

Prysor a ddywedodd:neu ydw i'n bod yn syniadaethol ddogmataidd a phedantig? Plis dwedwch os ydw i.


Egwyddorol wyt ti ynde. Dim byd yn bod ar hynny.

Odd genna i egwyddorion unwaith hefyd, ond dwi wedi eu gwerthu nhw am £2!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Aran » Maw 19 Gor 2005 8:27 am

7ennyn a ddywedodd:Odd genna i egwyddorion unwaith hefyd, ond dwi wedi eu gwerthu nhw am £2!


Naddo, dwyt ti heb!

Os dan ni am gael pethe annibynnol a llwyddiannus yn y Gymraeg, mae'n rhaid i ni fod yn barod i dalu amdanyn nhw.

Os dan ni am gael sîn gerddoriaeth annibynnol, mae'n rhaid i bobl fynychu gigs a phrynu CDau.

Os dan ni isio llyfrau Cymraeg, mae'n rhaid i bobl eu prynu.

Os dan ni isio papurau bro, mae'n rhaid iddynt gael eu prynu.

Os dan ni isio papur newydd dyddiol Cymraeg, mae'n rhaid i bobl ei brynu!

Ac os dan ni isio We Gymraeg, mae'n rhaid i bobl ei gefnogi'n ariannol.

Fel arall, os byddwn ni'n mynd ati brynu CDau Saesneg, i brynu llyfrau Saesneg, i brynu papur newydd Saesneg, ac i dalu'n fisol i ISP Saesneg/Americanaidd, tra'n cwyno i'n cwrw bod hi ddim yn deg i'r Cynulliad peidio â rhoi hyn a llall ac arall a phob dim i ni yn y Gymraeg 'oherwydd bod ni'n ei haeddu'... wel, os felly, byddwn ni'n ffycd.

Ydan ni isio byw ar reservations yn diolch yn ddiymhongar i'r Cynulliad am ambell anrheg bach?

Neu ydan ni isio mynnu ein lle yn y byd, a mynnu grym 'y bunt Gymraeg'?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan lleufer » Maw 19 Gor 2005 9:19 am

Petai'r enw yn cael ei newid i 'gyfranwr', petai lliwiau'r dotiau/nifer dotiau yn cael eu newid, petai'r rhithffurfiau yn cael eu newid, petai yna oleuadau bach yn fflachio, ayyb, i ddangos bod aelod yn cyfrannu'n fisol, yr un un peth fysa fo'n feddwl, a mi fuase ni gyd yn deall yn glir beth oedd ei ystur - 'di o'm ots sut da chi'n ei 'wisgo' nac ydy?

Yn y bon Nic bia'r maes, fo wnaeth esgor ar y syniad ac yna'r wefan, mae wedi cymeryd (ac yn parhau i wneud) llawer o'i amser a'i amynedd. Yn ddyddiol mae'n cael ei hun mewn sefylfaoedd lle mae'n gorfod troedio'n ofalus rhag gwneud cam a neb ac yn trio cadw pawb yn hapus yng nghanol hyn:
Nifer o negeseuon: 193064
Defnyddwyr cofrestredig: 1632
:!:

Mae'r rhan fwyaf ohonom, ar y llaw arall, yn rhad ac am ddim, di cael y pleser di derfyn o ddarganfod cyfeillion newydd, cael gwybod am gigiau a digwyddiadau ymlaen llaw, di cael cyngor, rhannu baich, rhannu jocs, rhannu poen, rhannu cyffro, cymeryd rhan mewn cystadleuthau.....i gyd yn y Gymraeg.

Dw i'n gwybod na fuasai yna faes-e hebddon ni, ond dw i'm yn meddwl bod yr un ohonom wedi ymaelodi oherwydd ein bod yn teimlo ei fod yn ddyletswydd arnom - da ni di ymaelodi am resymau hollol hunanol - bodloni angen personol / pleser personol / hwyl / sbri achydyg o falu awyr ar ddiwedd dydd.

Ydan da ni gyd yn gyfranwyr yn ein ffyrdd ein hunain, da ni gyd yn gefnogwyr yn ein ffyrdd ein hunain, da ni i gyd yn aelodau cyfartal gyda'r un hawliau (arwahan i'r cymedrolwyr a'r gweinyddwyr wrth reswm). Felly be di'r ots os oes yna lon llaw o 'Gefnogwyr ariannol' yn cael eu cydnabod er mwyn rhoi cyfle tecach, a mwy real i Nic barhau nid yn unig gynnal y maes, ond hefyd i'w ddatblygu.,

Beth bynnag da ni gyd yn bersonoliaethau ar y maes, ac yn dewis arddangos hynny drwy ein geiriau, felly peidiwch a chuddio ty ol i'ch graddfeydd - di rheiny ddim yn bwysig.
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 19 Gor 2005 11:00 am

7ennyn a ddywedodd:Sbwrgi tlawd ydw i.


A fi. Coz fi'n defnyddio.

Panom Yeerum a ddywedodd:Dwi'n dallt pam bod nic yn rhoi y gradd newydd, ond a fuasai bosib ei wneud yn fwy subtle efallai?


Syniad da Ffaro

Panom Yeerum a ddywedodd:Cadw yr un drefn ag o'r blaen (Defnyddiwr newydd, caeth i'r maes ayb) ond bod y 'dots' bach mewn lliw gwahanol i gefnogwyr? Dots glas i ddefnyddwyr, dots aur bach neis i gefnogwyr. Oes modd neud hyn? Neu rhoid lliw gwahanol i enw cyfranwyr.


Jesus! Ffacin brains. :rolio: Taw deud, ti'n gog?

Mali a ddywedodd:Wedi'r cyfan, mae 'na fwy o fywyd yma :D


Gwir. Mali, ti ishe mabwysiadu fi?

Aran a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Odd genna i egwyddorion unwaith hefyd, ond dwi wedi eu gwerthu nhw am £2!

Naddo, dwyt ti heb!


Aran yn upset bod e'n ariannu 1. boi sy' 'di cael syniad gwell na fe a 2. dysgwr sy'n dewis bod yn hwntw. :lol:

lleufer a ddywedodd:
Mae'r rhan fwyaf ohonom, ar y llaw arall, yn rhad ac am ddim, di cael y pleser di derfyn o ddarganfod cyfeillion newydd, cael gwybod am gigiau a digwyddiadau ymlaen llaw, di cael cyngor, rhannu baich, rhannu jocs, rhannu poen, rhannu cyffro, cymeryd rhan mewn cystadleuthau.....i gyd yn y Gymraeg.

Dw i'n gwybod na fuasai yna faes-e hebddon ni, ond dw i'm yn meddwl bod yr un ohonom wedi ymaelodi oherwydd ein bod yn teimlo ei fod yn ddyletswydd arnom - da ni di ymaelodi am resymau hollol hunanol - bodloni angen personol / pleser personol / hwyl / sbri achydyg o falu awyr ar ddiwedd dydd.

Ydan da ni gyd yn gyfranwyr yn ein ffyrdd ein hunain, da ni gyd yn gefnogwyr yn ein ffyrdd ein hunain, da ni i gyd yn aelodau cyfartal gyda'r un hawliau (arwahan i'r cymedrolwyr a'r gweinyddwyr wrth reswm). Felly be di'r ots os oes yna lon llaw o 'Gefnogwyr ariannol' yn cael eu cydnabod er mwyn rhoi cyfle tecach, a mwy real i Nic barhau nid yn unig gynnal y maes, ond hefyd i'w ddatblygu.,

Beth bynnag da ni gyd yn bersonoliaethau ar y maes, ac yn dewis arddangos hynny drwy ein geiriau, felly peidiwch a chuddio ty ol i'ch graddfeydd - di rheiny ddim yn bwysig.


Dal dy dir, ma'r sgrifen ar y mur, paid a herio'r gwir...Lleufer a'i sens. Wy ti'n fodlon mabwysiadu fi hefyd?
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Prysor » Maw 19 Gor 2005 11:34 am

mae wedi troi'n bwyllgor go iawn wan - bobol yn dechrau traethu'n hirwyntog am be mae nhw'n gredu - er bod pawb yn gwbod hynny a bod pawb yn cytuno efo be mae nhw'n ddeud! :winc:

wnai fy mhwynt eto - dwi ddim yn licio breintiau ar sail y gallu i dalu. Be sgin hynny i wneud efo faint o ddaioni mae'r maes wedi ei wneud etc? Da ni'n gwbod hynny neu fysa ni ddim yn boddran cymryd rhan yn y drafodaeth yma ar sut i gynnal y maes yn y lle cynta!

reit, dwi'n credu bod mwyafrif yma - yn cynnwys fi - o blaid talu'n fisol i gynnal y peth yn annibynnol (dwi'n credu yn gryf yn hynny a dwi wrthi'n gweithio ar dri prosiect o'r fath yn ardal Stiniog). Iawn, ymlaen a hynny.

gai ofyn chydig o gwestiynnau -

gai dalu a gwrthod y breintiau?

sut mae gneud? - mae rhai wedi gneud yn barod (doeddwn ddim wedi sylwi ar yr enwau wedi newid yn barod cyn ymuno yn y drafodaeth 'ma oherwydd i mi ddod yma drwy linc o drafodaeth arall gan Nic).

ydi'n bosib talu 24 cwid pan dwi'n fflysh? Ar y funud mae gennai LOT FAWR o gyfraniadau misol yn mynd allan i gylchgronnau, cymdeithasau a sefydliadau a dwi'n dal i ddisgwyl cael fy ad-dalu gan Gwyl Car Gwyllt am arian talu beirdd, rapars a rider nucleus bloody roots. Dwi'n ddi-waith, da chi'n gweld, a'r musus yn gweithio 14 awr y wythnos. Dau o blant etc...(ffidils yn dechrau canu...etc) :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Meic P » Maw 19 Gor 2005 11:41 am

Prysor a ddywedodd:mae wedi troi'n bwyllgor go iawn wan - bobol yn dechrau traethu'n hirwyntog am be mae nhw'n gredu - er bod pawb yn gwbod hynny a bod pawb yn cytuno efo be mae nhw'n ddeud! :winc:

wnai fy mhwynt eto - dwi ddim yn licio breintiau ar sail y gallu i dalu. Be sgin hynny i wneud efo faint o ddaioni mae'r maes wedi ei wneud etc? Da ni'n gwbod hynny neu fysa ni ddim yn boddran cymryd rhan yn y drafodaeth yma ar sut i gynnal y maes yn y lle cynta!

reit, dwi'n credu bod mwyafrif yma - yn cynnwys fi - o blaid talu'n fisol i gynnal y peth yn annibynnol (dwi'n credu yn gryf yn hynny a dwi wrthi'n gweithio ar dri prosiect o'r fath yn ardal Stiniog). Iawn, ymlaen a hynny.

gai ofyn chydig o gwestiynnau -

gai dalu a gwrthod y breintiau?

sut mae gneud? - mae rhai wedi gneud yn barod (doeddwn ddim wedi sylwi ar yr enwau wedi newid yn barod cyn ymuno yn y drafodaeth 'ma oherwydd i mi ddod yma drwy linc o drafodaeth arall gan Nic).

ydi'n bosib talu 24 cwid pan dwi'n fflysh? Ar y funud mae gennai LOT FAWR o gyfraniadau misol yn mynd allan i gylchgronnau, cymdeithasau a sefydliadau a dwi'n dal i ddisgwyl cael fy ad-dalu gan Gwyl Car Gwyllt am arian talu beirdd, rapars a rider nucleus bloody roots. Dwi'n ddi-waith, da chi'n gweld, a'r musus yn gweithio 14 awr y wythnos. Dau o blant etc...(ffidils yn dechrau canu...etc) :D


Dwi'n cytuno efo chdi Prys,

er does dim o'i le efo derbyn bathodyn am dalu £2 y mis. Yn enwedig os w ti'n berson gwisgo bathodyn.

Dwi'm yn meddwl dylai'r bobol sy'n cyfrannu gael eu marcio allan chwaith
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Aran » Maw 19 Gor 2005 11:55 am

Prysor a ddywedodd:gai dalu a gwrthod y breintiau?


Siwr Dduw - mae Nic wedi cadarnhau hynny'n rhwyla, dw i'm yn cofio lle.

Prysor a ddywedodd:sut mae gneud? - mae rhai wedi gneud yn barod (doeddwn ddim wedi sylwi ar yr enwau wedi newid yn barod cyn ymuno yn y drafodaeth 'ma oherwydd i mi ddod yma drwy linc o drafodaeth arall gan Nic).


Mae'r manylion yn fan hyn - a neges at Nic i ddweud bo chdi ddim isio cael dy nodi yn 'Gefnogwr'.

Prysor a ddywedodd:ydi'n bosib talu 24 cwid pan dwi'n fflysh?


Siwr y byddai fo - mae'n sôn ar y tudalen uchod bod siec (neu sut bynnag buasai rhywun isio talu, am wn i) flynyddol yn iawn.

[O, a hyd y gwn i, mae'n debyg y bydd y bathodynau ar gael am ryw bris bychan i rywun sydd isio nhw - fel oedd y crysau-T.]

Sut mae'r madarch yn dod?... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Jero Meia » Llun 25 Gor 2005 8:57 pm

Dwi'm yn licio'r sustem 'Defnyddiwr/ Cefnogwr', mae o 'chydig bach yn 'ddem and ys' dwi'n meddwl.

Ond dwi ddim chwaith yn cefnogi'r hen system, lle roedd pobl yn cael ranc uchel fel 'Ffanatig' ar ol rhoi cannoedd o bosts di-bwynt i'r 'edefyn hiraf erioed'.

Beth am lincio'r carma i'r ranc? e.e os mae'r carma yn +2 cael wbath fel 'Cyfrannwr Cydwybodol' neu 'Cyfrannwr Difyr', ag os mae'r carma yn -2 cael ranc fel 'Di-bwyll' neu 'Twt-lol'. Fel 'na, mae'r ranc ar sail safon cyfranniadau, nid nifer negeseuon na'r gallu i dalu.
Rhithffurf defnyddiwr
Jero Meia
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 197
Ymunwyd: Sad 16 Hyd 2004 9:18 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan Dylan » Maw 26 Gor 2005 2:06 am

Mae gan ambell wefan danysgrifiad gorfodol cyn gallu cyfrannu i rai seiadau. Yn achos y wefan yna, mae'r sustem yn gweithio'n dda iawn gan fod safon y trafod (gweler y seiat "Soap Box") yn wych. 'Dw i'n darllen hwnna'n ddyddiol. OK 'dw i heb danysgrifio, ond nid dyna'r pwynt :winc:

ta waeth, bydd siec yn y post i Nic fory (sori, 'dw i'n meddwl mai dyna'r ffordd mwya' cyfleus i mi dalu ar hyn o bryd). Mae'n hanfodol bod Maes-E yn parhau yn annibynnol o unrhyw grantiau cyhoeddus (gweler cyflwr truenus yr Eisteddfod) a 'dw i'n credu bod Nic yn darparu uffar o wasanaeth pwysig yma. 'Dw i ddim yn or-hoff o dalu am bethau fel hyn chwaith, ond 'dw i'n credu bod y Maes, yn benodol, werth bob ceiniog. Felly ia, awe.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Maw 26 Gor 2005 9:32 am

Sori, dw i heb ddarllen hyn ers sbel, ond mae stwff da yma.

Dw i'n tueddu cytuno ag awgrymiad dafydd bod "Cyfrannwr" yn wel na "Defnyddiwr" - bydd hynny yn newid yn y man (ond yn achos Iesu Nicky Grist, sy'n Ddefnyddiwr yn ei waed).

Prysor, mae sawl person yn talu yn anhysbys. Fel mae Aran yn dweud uchod i gyd sy angen yw nodyn gyda'r <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13509#3">siec</a> i ddweud dy fod di am fod yn Gefnogwr Cudd. Fydd neb ond ti a fi yn gwybod. Cei di'r bathodyn am ddim, ond bydd rhaid i ti ei wisgo tu mewn i dy siaced, yn agos at dy galon.

Yr unig peth y bydd "Cefnogwyr Cudd" yn colli mas arno, yw'r cynhigion arbennig sy'n cael eu cynnig yn seiat y Clwb Cefnogwyr. Fydd hyn ddim yn broblem yn y pendraw; dyn ni'n trafod cael cylchlythyr ebost i Gefnogwyr, ac wrth gwrs fydd neb yn gweld pwy sy'n derbyn hynny.

Diolch i bawb am eu cyfraniadau yma, ac am y cyfraniadau ariannol sy'n dod i mewn bob dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron