Prysor a ddywedodd:neu ydw i'n bod yn syniadaethol ddogmataidd a phedantig? Plis dwedwch os ydw i.
Egwyddorol wyt ti ynde. Dim byd yn bod ar hynny.
Odd genna i egwyddorion unwaith hefyd, ond dwi wedi eu gwerthu nhw am £2!
Prysor a ddywedodd:neu ydw i'n bod yn syniadaethol ddogmataidd a phedantig? Plis dwedwch os ydw i.
7ennyn a ddywedodd:Odd genna i egwyddorion unwaith hefyd, ond dwi wedi eu gwerthu nhw am £2!
Nifer o negeseuon: 193064
Defnyddwyr cofrestredig: 1632
7ennyn a ddywedodd:Sbwrgi tlawd ydw i.
Panom Yeerum a ddywedodd:Dwi'n dallt pam bod nic yn rhoi y gradd newydd, ond a fuasai bosib ei wneud yn fwy subtle efallai?
Panom Yeerum a ddywedodd:Cadw yr un drefn ag o'r blaen (Defnyddiwr newydd, caeth i'r maes ayb) ond bod y 'dots' bach mewn lliw gwahanol i gefnogwyr? Dots glas i ddefnyddwyr, dots aur bach neis i gefnogwyr. Oes modd neud hyn? Neu rhoid lliw gwahanol i enw cyfranwyr.
Mali a ddywedodd:Wedi'r cyfan, mae 'na fwy o fywyd yma
Aran a ddywedodd:7ennyn a ddywedodd:Odd genna i egwyddorion unwaith hefyd, ond dwi wedi eu gwerthu nhw am £2!
Naddo, dwyt ti heb!
lleufer a ddywedodd:
Mae'r rhan fwyaf ohonom, ar y llaw arall, yn rhad ac am ddim, di cael y pleser di derfyn o ddarganfod cyfeillion newydd, cael gwybod am gigiau a digwyddiadau ymlaen llaw, di cael cyngor, rhannu baich, rhannu jocs, rhannu poen, rhannu cyffro, cymeryd rhan mewn cystadleuthau.....i gyd yn y Gymraeg.
Dw i'n gwybod na fuasai yna faes-e hebddon ni, ond dw i'm yn meddwl bod yr un ohonom wedi ymaelodi oherwydd ein bod yn teimlo ei fod yn ddyletswydd arnom - da ni di ymaelodi am resymau hollol hunanol - bodloni angen personol / pleser personol / hwyl / sbri achydyg o falu awyr ar ddiwedd dydd.
Ydan da ni gyd yn gyfranwyr yn ein ffyrdd ein hunain, da ni gyd yn gefnogwyr yn ein ffyrdd ein hunain, da ni i gyd yn aelodau cyfartal gyda'r un hawliau (arwahan i'r cymedrolwyr a'r gweinyddwyr wrth reswm). Felly be di'r ots os oes yna lon llaw o 'Gefnogwyr ariannol' yn cael eu cydnabod er mwyn rhoi cyfle tecach, a mwy real i Nic barhau nid yn unig gynnal y maes, ond hefyd i'w ddatblygu.,
Beth bynnag da ni gyd yn bersonoliaethau ar y maes, ac yn dewis arddangos hynny drwy ein geiriau, felly peidiwch a chuddio ty ol i'ch graddfeydd - di rheiny ddim yn bwysig.
Prysor a ddywedodd:mae wedi troi'n bwyllgor go iawn wan - bobol yn dechrau traethu'n hirwyntog am be mae nhw'n gredu - er bod pawb yn gwbod hynny a bod pawb yn cytuno efo be mae nhw'n ddeud!
wnai fy mhwynt eto - dwi ddim yn licio breintiau ar sail y gallu i dalu. Be sgin hynny i wneud efo faint o ddaioni mae'r maes wedi ei wneud etc? Da ni'n gwbod hynny neu fysa ni ddim yn boddran cymryd rhan yn y drafodaeth yma ar sut i gynnal y maes yn y lle cynta!
reit, dwi'n credu bod mwyafrif yma - yn cynnwys fi - o blaid talu'n fisol i gynnal y peth yn annibynnol (dwi'n credu yn gryf yn hynny a dwi wrthi'n gweithio ar dri prosiect o'r fath yn ardal Stiniog). Iawn, ymlaen a hynny.
gai ofyn chydig o gwestiynnau -
gai dalu a gwrthod y breintiau?
sut mae gneud? - mae rhai wedi gneud yn barod (doeddwn ddim wedi sylwi ar yr enwau wedi newid yn barod cyn ymuno yn y drafodaeth 'ma oherwydd i mi ddod yma drwy linc o drafodaeth arall gan Nic).
ydi'n bosib talu 24 cwid pan dwi'n fflysh? Ar y funud mae gennai LOT FAWR o gyfraniadau misol yn mynd allan i gylchgronnau, cymdeithasau a sefydliadau a dwi'n dal i ddisgwyl cael fy ad-dalu gan Gwyl Car Gwyllt am arian talu beirdd, rapars a rider nucleus bloody roots. Dwi'n ddi-waith, da chi'n gweld, a'r musus yn gweithio 14 awr y wythnos. Dau o blant etc...(ffidils yn dechrau canu...etc)
Prysor a ddywedodd:gai dalu a gwrthod y breintiau?
Prysor a ddywedodd:sut mae gneud? - mae rhai wedi gneud yn barod (doeddwn ddim wedi sylwi ar yr enwau wedi newid yn barod cyn ymuno yn y drafodaeth 'ma oherwydd i mi ddod yma drwy linc o drafodaeth arall gan Nic).
Prysor a ddywedodd:ydi'n bosib talu 24 cwid pan dwi'n fflysh?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai