Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 12:35 pm
gan Aran
Prysor a ddywedodd:Digon hawdd deud 'dim ond dwy bunt y mis ydio', dydi? Ond pan ti'n rhoi dwy bunt y mis i fwy nag un achos, cymdeithas, mudiad, clwb, yswiriant etc mae o'n dipin gwahanol dydi? Onibai eich bod yn sengl ac yn gweithio i'r cwangos yng Nghaerdydd.


Mae hynny'n hollol gywir - am wn i, fuasai'n bancryptio dyn i gyfrannu at bob dim.

Ond ar yr un pryd, fyddai neb mae'n siwr yn awgrymu na ddylai'r gwahanol achosion a mudiadau yn ceisio codi pres...

Felly, hyd y gwela i, anghytundeb sydd yma am nodi pwy sydd wedi talu a phwy sydd heb, sydd yn bwynt teilwng o drafodaeth.

Dw i'n ei weld mewn dwy ffordd wahanol - mae fy ochr fflyffi yn cytuno efo Prys fod o'n bach yn annheg ar gyfer cyfrannwyr selog sydd ddim mewn sefyllfa i fod yn 'gefnogwyr' swyddogol...

Ond mae fy ochr marchnata yn gwybod y bydd y gwahaniaeth yn rhoi gwthiad bach yng nghefn rhai pobl i gychwyn talu lle buasen nhw efallai fel arall yn 'gohirio tan yfory'... yn sicr, bydd patrymau 'cefnogi' y Maes yn rhywfaint gwell o'i herwydd.

Bydd angen gwylio rhag unrhyw agwedd 'fy nadl i'n iawn oherwydd mod i'n gefnogwr a dwyt ti ddim', ond dw i'n gobeithio na fydd hynny'n codi yn aml - a phe bai unrhywun yn ei wneud yn gyson, mae'n siwr y byddai gwahanol ffyrdd o'u hannog i beidio.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 12:59 pm
gan garynysmon
Dwi'm di gwneud fy meddwl i fynny eto, ond mae'n fy atgoffa o'r ffordd mae capeli, eglwysi a papurau bro yn printio faint yn union mae pob unigolyn wedi'i gyfrannu tuag atynt.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 1:11 pm
gan nicdafis
Aran a ddywedodd:Bydd angen gwylio rhag unrhyw agwedd 'fy nadl i'n iawn oherwydd mod i'n gefnogwr a dwyt ti ddim', ond dw i'n gobeithio na fydd hynny'n codi yn aml - a phe bai unrhywun yn ei wneud yn gyson, mae'n siwr y byddai gwahanol ffyrdd o'u hannog i beidio.


Fydd dim amynedd 'da fi o gwbl gydag unrhyw un sy'n trial hynny. Fyddai'n well 'da fi wneud heb yr arian na chael y fath sustem mae Prysor yn meddwl dyn ni'n mynd amdani, ond dw i'n fwriadol osgoi. Byddai fe'n dinistrio maes-e.

Rhaid i fi fynd mas am sbel.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 1:18 pm
gan Aran
garynysmon a ddywedodd:Dwi'm di gwneud fy meddwl i fynny eto, ond mae'n fy atgoffa o'r ffordd mae capeli, eglwysi a papurau bro yn printio faint yn union mae pob unigolyn wedi'i gyfrannu tuag atynt.


Ia, mewn byd delfrydol, buasai hynny ddim yn digwydd - mewn byd delfrydol, buasai pawb yn rhoi'r un maint beth bynnag. Ond y rheswm bod capeli a phapurau bro yn gwneud hynny ydy bod nhw wedyn yn cael mwy o bres...

Mewn byd delfrydol, byddem ni gyd wedi rhoi hynny o gyfraniad misol y gwelwn yn deg i Nic yn barod... nid oes dim byd wedi bod i'n rhwystro rhag hynny, ond dim ond rwan, gan fod Nic yn dechrau marchnata'r syniad, ydy o'n digwydd.

Hynny yw, nid oes neb sydd ddim angen rhyw fath o hwb...

Y peth canolog pwysig yn hyn i gyd ydy bod Nic wedi gwrth-sefyll y temptasiwn i roi hawliau arbennig i'r rhai sy'n talu, fel sy'n digwydd ar nifer o wefannau eraill. Dyna lle mae rhywun yn gweld yr egwyddor sylfaenol.

Dydy'r busnes enwau yma ddim yn bwysig - goglais, dim mwy.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 1:32 pm
gan Prysor
fyddwn i ddim yn credu am eiliad y byddai Nic yn fwriadol greu system anheg. Mae wedi cynnig rhywbeth controfyrsial ac wedi bod yn ddigon da i roi edefyn i ni ei drafod. Fy ymateb cyntaf yw fod hyn yn system anghyfiawn (dau dier - top tier yn cael breintiau oherwydd eu bod yn gallu talu am hynny). Dyna yw fy ymateb greddfol a rhybuddio ydw i rhag hyn. Mae lle i drafod eto, gan ei bod yn amlwg bod angen ffordd o ariannu'r maes.

a dwi ddim yn trio deud mod i'n gefnogwr gwell na neb na dim felna, defnyddio 'fi' fel engraifft wrth wneud pwynt ehangach am allu pobl i dalu ydw i.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 1:38 pm
gan Meic P
Os taswn i am gyfrannu, mi fasa'n well geni wneud hynny yn anhysbys.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 1:46 pm
gan Aran
Meic P a ddywedodd:Os taswn i am gyfrannu, mi fasa'n well geni wneud hynny yn anhysbys.


Pwynt diddorol, ac mae'n siwr y byddai rhai pobl eraill yn teimlo'r un peth.

Dw i'n siwr (o dan y sustem fel y mae hi ar y funud) y byddai unrhyw un wnaeth ofyn i beidio cael 'cefnogwr' fel gradd yn cael ei d/dymuniad.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 2:09 pm
gan sian
Meic P a ddywedodd:Os taswn i am gyfrannu, mi fasa'n well geni wneud hynny yn anhysbys.


Dw i'n deall pobl yn cyfrannu'n anhysbys at y capel/achosion da ond, yma, am £24 y flwyddyn rwyt ti'n sôn - dyw e ddim yn achos o "beidio â gadael i dy law chwith wybod beth mae dy law dde'n ei wneud" â gweud y gwir, nad yw? - yn enwedig os yw e'n mynd i fod yn hwb i bobl eraill i roi.

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 2:11 pm
gan Cardi Bach
Meic P a ddywedodd:Os taswn i am gyfrannu, mi fasa'n well geni wneud hynny yn anhysbys.


Gallwn ni roi gradd
"Cyfranwr am gael aros yn anhysbys" i ti os wyt ti am ! :winc:

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 3:13 pm
gan Iesu Nicky Grist
:crechwen: Fi’n hoff o’r ffordd fi’n cael y label “defnyddiwr”. :crechwen: Dirty bastard mewn geiriau eraill. User. Gigolo sy’n mynd trw’ merched fel fi’n mynd trw’ ffags. :crechwen: (Ma pun hoyw fan hyn). 'Na lle y' fi, mewn opium den shitty, :crechwen: tu ol i gyfrifiadur sy wedi’i ddwyn yn clatcho merch 15 oed sydd wedi bod ar goll ers pythefnos a’i galw hi’n “Mam”. :crechwen: “Sai mo’yn rhoi dolur i ti Mam…ond fi ishe gwerthu drugs i ti...a llanw dy ben da dramau Saunders...” a chwerthin fel boi tost. :crechwen:

A petawn i wedi/'n talu dwy bunt y mis, fydden i'n gefnogwr. Ei, gwd 'an.

Dweud y gwir, well gen i fod yn dirty user na'n gefnogwr.
Sain cefnogi'r maes o gwbwl.
Llawn twats "Plaid", gogs a ffacin BEIRDD.
A weithie gwelir y tri tostrwydd mewn un "cefnogwr".
Ych a fi.

:winc: :winc: Good night. :winc: :winc: