gan Dili Minllyn » Iau 21 Gor 2005 6:51 pm
O ystyried yr holl gasineb sy’n cael ei luchio ar y fforymau trafod gwleidyddol, efallai ’mod i’n hollol ffôl yn gofyn am hyn, ond mi faswn i’n licio gweld lle i bobl drafod gwahanol syniadau crefyddol/ysbrydol. Mae’n sicr o gael ei herwgipio o dro i dro gan ffwndamentalwyr gwahanol garfanau, ond baswn i’n braf cael dal pen rheswm efo pobl eraill sy’n chwilio o ddifrif am ystyr ddyfnach bywyd.