Y maes yn Dim Lol 2005

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 08 Awst 2005 2:28 pm

eusebio a ddywedodd:Ond y cwestiwn mawr yw - ydi Dim Lol yn

1) ddifyr ...?
2) doniol ...?


3) shed goed...? Dyw e'm yn Lol.

Aran a ddywedodd: fuaswn i fyth yn dileu negeseuon am fod 'yn erbyn' Cymuned. Dweud y gwir, lle bod gen bobl pwyntiau dilys i'w codi, dw i'n ei gweld hi'n ddefnyddiol iawn i glywed barn/safbwynt gwahanol... :)


Sai lico'ch slogan chi. Gormod o oren. Dim digon o dits.

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Gwefan ydi maes-e, rhywle, fel y dywedodd Simon Brooks wrtha'i unwaith, i "dossers Cymraeg falu cachu".


Fel un o'r tossers Cymraeg hoffem ddiolch i Aran, Simon, (Theodore - doo doo doo doo doo doo) Saunders a phob Sais arall sy 'di ffindo mas bod Cymru a Chymry'n sexy; am frwydro ein brwydrau mor synhwyrol a chraff. Cheers lads. One for the tossers. XXX
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan nicdafis » Llun 08 Awst 2005 2:51 pm

Dim diolch i fi? :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Llun 08 Awst 2005 3:23 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Fel golygydd Lol yn y gorffennol, roeddwn i'n cael cyfraniadau gan bobl oedd yn cuddio tu ol i ffugenwau. Hyd yn oed pan gefais i fel golygydd fy mygwth â'r gyfraith am ryw stori enllibus, ni wnes i ddatgelu pwy oedd yn cuddio tu ôl i'r ffugenw, oherwydd nad oedd gen i hawl yn foesol. Wnes i ddim camddefnyddio fy ngwybodaeth er mwyn achub fy nghroen fy hun, nag er mwyn trio sgorio browni points efo pobl.


Wel, da iawn ti am fod mor ddewr.

Yr unig wahaniaeth rhwng ti (fel cyn-olygydd Lol) a fi (fel golygydd maes-e) yw nag oes modd i mi weld yr erthyglau cyn iddyn nhw fynd ar y we. Tybed a fyddet ti'n fodlon cyhoeddu cyfraniadau Nicky Iesu Grist, heb eu darllen? (Dw i'n pigo ar hwnna achos ei fod e'n handi. Dyw hyn ddim yn golygu mod i'n cytuno taw tosser yw e.)

Fy mhroblem i (wah, wah, wah) yw bod rhaid i fi ymddiried yn gallu aelodau maes-e i stico at <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=10155">ganllawiau y wefan</a>. Does dim cyfrifoldeb moesol 'da fi i amddiffyn dy anhysbysrwydd yma. Os dwyt ti ddim yn fy mharchu i ddigon i gadw at y canllawiau, pam ddylwn i dy barchu di? Os dydy rheol netiquettaidd am beidio creu mwy nag un cyfrif ar wefan trafod, er mwyn hybu cynyrch dy gwmni, ddim yn un y dylet ti stico ato fe, pam dylai cymedrolwyr maes-e stico at yr un am anhysbysrwydd yr aelodau?

Mewn geiriau eraill, pam mae dy enw da di yn werth mwy nag enw da Aran Jones neu Simon Brooks? Mi wyt ti newydd ddatgeli rhywbeth wnaeth Simon Brooks ddweud wrthot ti (yn honedig) yn y byd go iawn (honedig), rhywbeth a fyddai'n debyg i effeithio ar y ffordd mae pobl yn meddwl amdano (wel, pobl fel ING, sy'n credu popeth maent yn darllen ar y maes). Rhywbeth sydd, yn ystyr cul y gair, yn enllibus, am y rhesymau hynny. Ti wedi wneud hyn heb ei ddangos i fi yn gynta, ac ar yr un pryd, ti wedi awgrymu 'swn i ddim yn gadael i ti wneud hyn yn ddi-enw <b>fi</b> fyddai'r cachgi.

Ac mae cyfrifoldeb moesol arna i i ti?

Ma's o 'ma, gwboi.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Llun 08 Awst 2005 4:07 pm

nicdafis a ddywedodd:Yr unig wahaniaeth rhwng ti (fel cyn-olygydd Lol) a fi (fel golygydd maes-e) yw nag oes modd i mi weld yr erthyglau cyn iddyn nhw fynd ar y we. Tybed a fyddet ti'n fodlon cyhoeddu cyfraniadau Nicky Iesu Grist, heb eu darllen? (Dw i'n pigo ar hwnna achos ei fod e'n handi. Dyw hyn ddim yn golygu mod i'n cytuno taw tosser yw e.)


Yndi, mae hynny yn ddigon gwir. Ac mae’n beth da dy fod yn gallu, ac yn tynnu rhai cyfraniadau oddi ar y wefan; ac yn rhoi rhybudd i rai pobl sy’n croesi’r ffin. Wrth gwrs, does dim modd i ti wneud hynny bob munud o’r dydd a dyna pam mae pethau’n mynd i fyny ar y wefan sydd ddim wrth ddant pawb bob amser.

nicdafis a ddywedodd:Fy mhroblem i (wah, wah, wah) yw bod rhaid i fi ymddiried yn gallu aelodau maes-e i stico at <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=10155">ganllawiau y wefan</a>. Does dim cyfrifoldeb moesol 'da fi i amddiffyn dy anhysbysrwydd yma. Os dwyt ti ddim yn fy mharchu i ddigon i gadw at y canllawiau, pam ddylwn i dy barchu di? Os dydy rheol netiquettaidd am beidio creu mwy nag un cyfrif ar wefan trafod, er mwyn hybu cynyrch dy gwmni, ddim yn un y dylet ti stico ato fe, pam dylai cymedrolwyr maes-e stico at yr un am anhysbysrwydd yr aelodau?


Mi wnes i ymaelodi â Maes-e yn wreiddiol dan fy enw fy hun, ac yn hytrach na gofyn am newid hwnnw wrth symud swydd, mi agorais gyfrif newydd. Dwi wedi deud hynny o’r dechra dwi’n meddwl. A dwi wedi darllen y canllawia, wir yr!

nic dafis a ddywedodd:Mewn geiriau eraill, pam mae dy enw da di yn werth mwy nag enw da Aran Jones neu Simon Brooks? Mi wyt ti newydd ddatgeli rhywbeth wnaeth Simon Brooks ddweud wrthot ti (yn honedig) yn y byd go iawn (honedig), rhywbeth a fyddai'n debyg i effeithio ar y ffordd mae pobl yn meddwl amdano (wel, pobl fel ING, sy'n credu popeth maent yn darllen ar y maes).


Dwi’n meddwl i ING gamddeall. Neu efallai mai fi wnaeth gamddeall? Nid yw dosyr a tosyr yr un peth yn fy ngolwg i. Mai’r ail yn fwy negyddol na’r llall, byddwn i yn ei ddweud. Felly, nid oedd SB – o anghenraid – yn ei drafodaeth (honedig) â fi yn bod mor negyddol â hynny... Ta waeth...

Dydi fy enw i ddim gwerth mwy na llai nag enwau’r ddau arall. Nid fi yw’r pwynt a dweud y gwir. Beth yw’r ots beth mae rhyw gyfieithydd-sector-cyhoeddus yn ei ddweud?! Ond, efo rhai bobl, mae 'na oblygiadau, ac mi oedd 'na oblygiadau yn yr achos hwn. Ac am hynny dwi’n meddwl y cododd y ddadl ei phen eto. Ond, ymddengys nad yw'r pwynt yn agored i drafodaeth bellach - ar faes-e beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 08 Awst 2005 5:17 pm

nicdafis a ddywedodd:Dim diolch i fi? :crio:


'da enw fel dafis? ffac off. :winc: Anyway, hen beth dros nos yw maes-e. I dossers Cymraeg.

Gyda llaw, ma Simon wedi dweud "fuck off yaow ugly cooooont" i fi 'fyd (yn y byd go iawn honedig). Honiad go iawn.

Tosser ac nid dosser wy ishe bod. Ma dosser yn rhoi'r argraff bo fi'n dope smoking lazy cunt "sy'm yn gwneud digon". Ma tosser yn dangos bo da fi goc handi. Gwwwwwt.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan nicdafis » Llun 08 Awst 2005 5:50 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Dwi’n meddwl i ING gamddeall. Neu efallai mai fi wnaeth gamddeall? Nid yw dosyr a tosyr yr un peth yn fy ngolwg i. Mai’r ail yn fwy negyddol na’r llall, byddwn i yn ei ddweud. Felly, nid oedd SB – o anghenraid – yn ei drafodaeth (honedig) â fi yn bod mor negyddol â hynny... Ta waeth...


Chwarae teg, fi oedd wedi cam-ddeall, neu wedi cael fy ngham-arwain gan ING - nid am y tro cyntaf, mae e'n glyfar fel 'na. Ro'n i wedi gweld treiglad meddal yn dy "...lle i 'dossers Cymraeg falu cachu'" lle nad oes treiglad o'r fath.

Dw i'n cytuno â ti, dydy "Mae Simon Brooks yn dweud bod 'maes-e yn lle ar gyfer dossers Cymraeg..'" ddim yn enllibus o gwbl. Fyddai neb yn anghytuno gyda fe yna, dw i'n siwr. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron