Mi oedd owtio rhywun gan achosi goblygiadau difrifol yn y byd go iawn yn rhywbeth naill ai hynod o gas neu hynod o dwp i'w wneud (cymera hynny fel barn/safbwynt wahanol). Dwi ddim yn meddwl bod 'na dir moesol i sefyll arno. Gwefan ydi maes-e, rhywle, fel y dywedodd Simon Brooks wrtha'i unwaith, i "dossers Cymraeg falu cachu". Dydi deud rhywbeth ar faes-e, fel y dywedodd yr unigolyn hwnnw ei hun yn un o'r seiadau gwleidyddiaeth, ddim yn golygu siarad yn gyhoeddus.
Teg oedd penderfyniad Nic i gau'r pwnc a dileu'r negeseuon gan ei fod o'r farn eu bod yn enillbus (ac ei wefan o ydi maes-e, felly mae ganddo'r hawl i wneud fel y myn). Ond mi achosodd yr hel clecs y fath ddrwg-deimlad mewn cymuned a chymdeithas a gweithle
go iawn. Ni wnaeth neb elwa o hyn, a dwi'n gwybod nad oes
neb yn ddiolchgar o dderbyn yr wybodaeth. Mi ydan ni i gyd yn cynhyrfu yn ormodol weithia ac yn cael ein dal yn nrama'r foment, ac mae'n debyg mai dyna ddigwyddodd llynedd o ran datganiad gwreiddiol Simon Brooks, y rhai a ymosododd arno, ac o ran Aran â'i lwy bren.
Barn Nic oedd cau cyfrif Realydd, a hynny am iddo wthio'r ffiniau yn ormodol efallai. Gwir, dydi Realydd ddim yn berson
a poblogaidd iawn yn ein mysg, ond mae ganddo'r hawl i barhau i fod yn anhysbys; ac am hynny byddwn i'n deud nad oes ganddo fo (na Dim Lol) le i gwyno - gan na wnaethpwyd cam ag o y person.
Cyn i neb fy owtio fi, gan fod gen i 3 cyfrif (
Crogwch fi'n gyhoeddus! Dilëwch fy ngharma! Dywedwch wrth olygydd Barn
) - mi fum i'n golygu Lol fy hun yn y gorffennol, yn nyddiau cynnar maes-e, ac fel dywed Nic - roedd llawer o'r straeon bryd hynny yn deillio o maes-e, ac roedd llawer o'r aelodau yn gyfrannwyr craidd. Mae'n rhyfedd sut mae maes-e wedi troi'n sefydliad ynddo'i hun erbyn hyn. Roedd hynny'n siwr o ddigwydd, mae'n debyg; ond mae'n drueni hefyd iddo ddigwydd mor fuan.
Ond na ni.